fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Joio Nadolig Abertawe

Rhagfyr yw’r amser i ddechrau rhannu hwyl yr ŵyl ac mae tîm Joio Bae Abertawe yma i sicrhau digonedd o hwyl i bawb!

Felly beth am gymryd munud ym mis Rhagfyr i fwynhau creu atgofion? Mae digonedd o hwyl yr ŵyl ar gyfer chi a’ch teulu, o sglefrio iâ i farchnadoedd y Nadolig, i orffen eich siopa Nadolig yn y Cwadrant. Dyma amser gorau’r flwyddyn yn bendant!

Sgroliwch i lawr i ddarganfod y digwyddiadau Nadoligaidd sydd ar gael yn Abertawe dros gyfnod yr ŵyl…

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau
15 Tachwedd – 2 Ionawr 2024, Parc yr Amgueddfa

Ydych chi’n chwilio am bethau Nadoligaidd i’w gwneud y gaeaf hwn? Mae gan Wledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe y cyfan sydd ei angen arnoch – dyma’r cyrchfan gorau ar gyfer adloniant i’r teulu y Nadolig hwn! Mae Parc yr Amgueddfa Abertawe wedi cael ei drawsnewid yn wledd y gaeaf, gan greu awyrgylch hudol ar gyfer tymor yr ŵyl gyda hoff atyniadau pawb i chi eu mwynhau gyda’ch teulu a ffrindiau.

Gallwch ymweld â groto Siôn Corn er mwyn cwrdd â’r dyn ei hun! Dyma’r cyfle perffaith i roi gwybod iddo am yr hyn sydd ar eich rhestr Nadolig, ond well i chi fod yn dda! Ewch ar yr Ice Jet os ydych chi’n chwilio am gyffro. Yn newydd ar gyfer 2023, mae’r reid Ice Jet yn cynnig profiad unigryw a hynod gyffrous, gan gyrraedd cyflymderau o dros 50mya gydag effeithiau gweledol syfrdanol. Hefyd, gallwch weld golygfeydd o’r ddinas ar yr Olwyn Fawr.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â’r Pentref Alpaidd lle gallwch ddod o hyd i’ch hoff fwydydd y Nadolig!

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau

Marchnad y Nadolig
24 Tachwedd – 20 Rhagfyr, Canol y Ddinas

Mae crefftwyr dawnus, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd blasus yn dychwelyd i Farchnad Nadolig Abertawe tan 20 Rhagfyr. Bydd cabanau Nadoligaidd ar hyd Stryd Rhydychen a Portland Street yn cynnig anrhegion unigryw, danteithion i’ch temtio ac addurniadau hardd.

Caban y Carolwr yw’r canolbwynt hefyd ar gyfer rhaglen o adloniant Nadoligaidd, gan gynnwys corau ysgolion, am barhad Marchnad y Nadolig. Pan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer perfformiadau, gallwch gamu i mewn i’r olygfa ddisglair a thynnu’r llun teuluol Nadoligaidd perffaith.

Marchnad y Nadolig – Gweld mwy

Mwynhewch y Nadolig yn y Cwadrant y mis Rhagfyr hwn

Eleni gall plant ar draws Abertawe anfon eu rhestrau Nadolig yn syth at Siôn Corn gyda blwch post swyddogol Gwasanaeth Post Pegwn y Gogledd!

Bydd Blwch Post Siôn Corn, sydd ger stondin Krispy Kreme, ar gael tan 20 Rhagfyr.

• Casglwch gerdyn post swyddogol o’r blwch post
• Ysgrifennwch eich rhestr ar gyfer Siôn Corn
• Postiwch eich rhestr cyn 20 Rhagfyr

Cofiwch gynnwys eich manylion ar eich cerdyn post at Siôn Corn a byddwch yn cael eich cynnwys yn awtomatig mewn cystadleuaeth wythnosol i ennill £50 ar gyfer siop o’ch dewis yn y Cwadrant!

Mae’n amser i ni fwynhau hud y Nadolig!

Dewch i ddarganfod Canolfan Siopa’r Cwadrant

Cinderella, Pantomeim
9 Rhagfyr – 7 Ionawr 2024, yn Theatr y Grand Abertawe

Os ydych chi’n chwilio am ffordd ddifyr a Nadoligaidd o ddathlu tymor y Nadolig, mae gan Theatr y Grand Abertawe’r cynnig gorau i chi.

Bydd pantomeim eleni, sef cynhyrchiad gwych o Cinderella a gynhelir o ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr i ddydd Sul 7 Ionawr, yn cynnwys set ddigidol ysblennydd, digonedd o gynnwys y gynulleidfa a llawer iawn o chwerthin.

Mae’r cloc yn tician…!

Prynnwch eich tocynnau nawr!

Dathlu tymor yr ŵyl yn Amgueddfa’r Glannau Abertawe y mis Rhagfyr hwn

Mae llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau Nadoligaidd cyffrous i’w dewis yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Dewch i gwrdd â Siôn Corn am amser stori arbennig, mwynhewch de prynhawn Nadoligaidd, archwiliwch marchnadoedd crefftau neu cymerwch rhan mewn gweithdai coblynnod Nadoligaidd.

Mae yna hefyd gynigion tymhorol ac anrhegion a hamperi Cymreig hardd i chi eu darganfod yn siopau a chaffis yr Amgueddfa. Gellir archebu rhai digwyddiadau a gweithgareddau ymlaen llaw, felly peidiwch â cholli allan, prynwch eich tocynnau heddiw.

Digwyddiadau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Digwyddiadau yn Neuadd Brangwyn

Y mis Rhagfyr hwn, dewch i ddarganfod yr hyn sydd gan Neuadd Brangwyn i’w gynnig. O gorau i gyngherddau Nadolig, mae gan Neuadd Brangwyn bopeth y mae ei angen arnoch er mwyn sicrhau eich bod yn dathlu holl hwyl y Nadolig gydag amrywiaeth o sioeau, cyngherddau ac arddangosfeydd gwych na ddylech eu colli!

Digwyddiadau yn Neuadd Brangwyn ym mis Rhagfyr

Gweithgareddau’r Nadolig yn LC Abertawe

Gwnewch yn siŵr bod LC Abertawe ar eich rhestr Nadolig eleni. Ble arall allwch chi nofio, chwarae, dringo a bwyta, a’r cyfan dan yr un to?

Dyma’r lle perffaith i greu atgofion gyda’ch teulu’r Nadolig hwn!

Gallwch gadw lle ar gyfer mis Rhagfyr nawr – mae’r lleoedd yn llenwi’n gyflym felly ychwanegwch ddiwrnod mas yn LC Abertawe at eich rhestr o bethau i’w gwneud ym mis Rhagfyr.

Rhagor o wybodaeth

Carolau yn y Castell

Mae Castell Ystumllwynarth yn darparu cefndir hudol ar gyfer y gyngerdd hamddenol hon sy’n cynnwys gwesteion arbennig o’r gymuned leol yn perfformio ffefrynnau’r ŵyl, gyda digonedd o gyfleoedd i ymuno yn y canu. Dyma gyfle gwych i ymuno yn hwyl yr ŵyl gyda theulu a ffrindiau, ac i gefnogi’r gwaith o ddiogelu’r safle hanesyddol hwn. Dydd Sadwrn, 16 Rhagfyr o 1pm.

Mae’r digwyddiad am ddim, ond gwerthfawrogir unrhyw roddion.

Mwy o wybodaeth

Nadolig yn ein Lleoliadau Diwylliannol

P’un a yw’n well gennych archwilio’r ardal, creu llanast gyda chelf a chrefft neu gwtsio lan i ddarllen llyfr da, mae gan ein lleoliadau diwylliannol ddigon o weithgareddau Nadoligaidd difyr i chi!

Felly os ydych chi’n chwilio am weithgareddau a syniadau i ddiddanu’r teulu cyfan yn y cyfnod cyn y Nadolig, dyma’r lle i chi!

Mwy o wybodaeth

Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad a Freedom Leisure

Mae gan Abertawe draddodiad balch o greu chwaraewyr gwych. Mae angen ymroddiad, penderfyniad ac oriau o waith caled i gynnal y ddinas chwaraeon rydyn ni’n ei hadnabod ac yn dwlu arni. P’un ai’r gwirfoddolwr neu’r hyfforddwr sy’n rhoi awr ar ôl awr o’i amser yn y cefndir, y tîm sydd wedi bod y mwyaf llwyddiannus trwy’r flwyddyn neu’r chwaraewr sydd wedi cyflawni’r mwyaf yn ei gamp, mae Abertawe’n ddinas sy’n llawn pencampwyr chwaraeon.

Enwebwch nawr!

Cynhelir Gwobrau Chwaraeon Abertawe nos Iau 28 Mawrth 2024 yn y Brangwyn mewn cydweithrediad a Freedom Leisure.

Tocynnau ar werth Ionawr 2024.

Enwebwch nawr!