Bydd crefftwyr talentog, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd stryd blasus yn dychwelyd i ganol y ddinas i gynnig detholiad gwych o anrhegion unigryw, danteithion blasus ac addurniadau hardd.
Bydd llawer o wynebau cyfarwydd yn aros i’ch cyfarch ond mae rhai masnachwyr newydd hefyd – y bydd rhai ohonynt yma am ychydig amser yn unig, felly cymerwch gip ar ‘Arweiniad Siopa Marchnad y Nadolig’ i sicrhau nad ydych yn colli’ch cyfle!
Mae ardal y bar Nadoligaidd yn cynnig seddau cysurus dan gysgod – y lle perffaith i gael hoe haeddiannol ar ôl siopa! Bydd rhywbeth at ddant pawb yno, boed hynny’n win y gaeaf, yn jin fach i’w joio, yn gwrw Almaenig neu’n baned o goffi.
Gosodir byrddau gan ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol, a rheolir yr ardal mewn modd sy’n ddiogel o ran COVID-19.
Bydd plant (ac oedolion!) wrth eu boddau’n cael reid ar y carwsél hardd, a ddaw a gwên i wyneb pawb! Gweithredir y reid mewn ffordd sy’n ddiogel o ran COVID-19 ac mae’n gyfle perffaith i chi dynnu llun.