Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’n adrodd stori diwydiant ac arloesedd yng Nghymru, yn awr a thros y 300 mlynedd ddiwethaf.
Cafodd y Chwyldro Diwydiannol effaith enfawr ar Bobl, Cymunedau a Bywydau yn ogystal ag ar weddill y byd. Gall ymwelwyr werthfawrogi’r hanes gyda chymysgedd trawiadol o’r hen a’r newydd yn ardal arforol y ddinas sy’n datblygu’n gyflym.
Mae ein treftadaeth ddiwydiannol a rhyngweithiol arforol yn barod i’w harchwilio drwy dechnoleg ryngweithiol arloesol ynghyd ag arddangosfeydd traddodiadol.
Mae’r amgueddfa mewn warws rhestredig gwreiddiol wedi’i gyplysu ag adeilad llechi a gwydr hynod fodern.
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn eich rhoi chi yng ngofal y profiad, gan ganiatáu i chi gloddio mor ddwfn ag y dymunwch i’r arddangosfeydd, yr arddangosiadau a’r wybodaeth.
Twitter: @the_waterfront
Facebook: https://www.facebook.com/waterfrontmuseum
Instagram: @AmgueddfaCymru
Gwefan: https://amgueddfa.cymru/abertawe/
Ffôn: 0300 111 2 333