Ymunwch â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth ar gyfer ‘Carolau yn y Castell’ ddydd Sadwrn 16 Rhagfyr o 1pm.
Mae rhagfuriau cerrig y castell yn darparu cefndir hudol ar gyfer y gyngerdd hamddenol hon sy’n cynnwys gwesteion arbennig o’r gymuned leol yn perfformio ffefrynnau’r ŵyl, gyda digonedd o gyfleoedd i ymuno yn y canu.
Mae’r digwyddiad am ddim, ond gwerthfawrogir unrhyw roddion.
Dyma gyfle gwych i ymuno yn hwyl yr ŵyl gyda theulu a ffrindiau, ac i gefnogi’r gwaith o ddiogelu’r safle hanesyddol hwn.