fbpx
Castell Ystumllwynarth – Bellach ar agor ar gyfer tymor 2024!
Gweld Mwy

Mae llawer o hwyl yr ŵyl ar gael yn ein lleoliadau diwylliannol!

P’un a yw’n well gennych archwilio’r ardal, creu llanast gyda chelf a chrefft neu gwtsio lan i ddarllen llyfr da, mae gan ein lleoliadau diwylliannol ddigon o weithgareddau Nadoligaidd difyr i chi!

Felly os ydych chi’n chwilio am weithgareddau a syniadau i ddiddanu’r teulu cyfan yn y cyfnod cyn y Nadolig, dyma’r lle i chi!

Oriau agor y Nadolig 2023

Gwasanaethau Diwylliannol – Oriau agor y Nadolig 2022

23 Rhag 24 Rhag 25 Rhag 26 Rhag 27 Rhag 28 Rhag 29 Rhag 30 Rhag 31 Rhag 1 Ion 2 Ion
Gwasanaeth Archifau Ar gau Ar gau Ar gau Ar gau Ar gau  Agor fel arfer. Agor fel arfer. Ar gau Ar gau Ar gau Agor fel arfer.
Canolfan Dylan Thomas  Agor fel arfer. 10am – 12pm Ar gau Ar gau Ar gau Ar gau  Agor fel arfer.  Agor fel arfer.  Agor fel arfer. Ar gau Ar gau
Glynn Vivian Ar gau 10am – 12pm Ar gau Ar gau Ar gau Agor fel arfer. Agor fel arfer. Agor fel arfer. Agor fel arfer. Ar gau Agor fel arfer.
Amgueddfa Abertawe Agor fel arfer. 10am – 12pm Ar gau Ar gau Ar gau Agor fel arfer. Agor fel arfer. Agor fel arfer. Agor fel arfer. Ar gau Agor fel arfer.
Theatr y Grand 9am-9pm 12pm-7pm Ar gau 12pm-7pm 12pm – 9pm 10am – 9pm 10am – 9pm 10am – 9pm 12pm – 7pm Ar gau 10am – 5pm

 

23 Rhag 24 Rhag 25 Rhag 26 Rhag 27 Rhag 28 Rhag 29 Rhag 30 Rhag 31 Rhag 1 Ion 2 Ion
Llyfrgelloedd Ar gau Ar gau Ar gau Ar gau Ar gau Bydd Canol, Gorseinon, Treforys ac Ystumllwynarth ar agor oriau arferol – bydd pob llyfrgell arall ar gau. Bydd Canol, Gorseinon, Treforys ac Ystumllwynarth ar agor oriau arferol – bydd pob llyfrgell arall ar gau. Bydd Canol, Gorseinon, Treforys ac Ystumllwynarth ar agor oriau arferol – bydd pob llyfrgell arall ar gau. Ar gau Ar gau

 

Nadolig yn Amgueddfa Abertawe

Darganfyddwch ragor o draddodiadau Fictoraidd a’r straeon y tu ôl i wrthrychau’r amgueddfa fel y llestr gwasael ar ein gwedudalen ‘Nadolig Fictoraidd’. Gallwch hyd yn oed ddod o hyd i restr chwarae ar Spotify i chi wrando arni a’i mwynhau!

Gallwch fwynhau Nadolig Fictoraidd gyda’r gweithgareddau gwych hyn!

Arddangosfa Dylan Thomas

“Prynhawn noswyl Nadolig oedd hi, a minnau yng ngardd Mrs Prothero yn aros am gathod gyda’i mab Jim. Roedd hi’n bwrw eira. Roedd hi bob amser yn bwrw eira adeg y Nadolig.

Stori Hudol Dylan, ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’, yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer cyfres o weithgareddau i chi eu mwynhau yng Nghanolfan Dylan Thomas neu gartref.

Galwch heibio’n man dysgu am ddim sy’n addas i deuluoedd, ein man chwarae hunanarweinedig ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru!’ Mae gweithgareddau’n cynnwys creu pluen eira, creu cerdyn sydd wedi’i ysbrydoli gan ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’, ysgrifennu creadigol, pypedau a gemau.

Cofiwch gasglu copi o ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’ o’r siop anrhegion – yr anrheg berffaith!

A chofiwch gadw lygad ar y wefan am weithgareddau i’w mwynhau gartref; byddant yn dangos i chi sut i greu cerdyn Nadolig ar thema ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’ a llawer mwy!

Gweld Mwy

Llyfrgelloedd Abertawe

Y gaeaf yw’r amser perffaith i swatio o flaen tân cynnes a mwynhau llyfr da (nid bod angen esgus arnon ni!), ac mae digon o lyfrau ar gael yn Lyfrgelloedd Abertawe Am ragor o wybodaeth am ymweld â’ch llyfrgell leol y gaeaf hwn, ewch i www.abertawe.gov.uk/llyfrgelloedd.

 

 

Calendr Adfent Gweithgareddau

Mae cyfnod y Nadolig yn nesáu! Er mwyn cadw’ch plant bach (a mawr!) yn brysur yn y cyfnod cyn y Nadolig, rydym wedi llunio 24 o weithgareddau Nadoligaidd i chi eu mwynhau.  Mae gwahanol weithgaredd ar gyfer pob diwrnod drwy gydol mis Rhagfyr felly cadwch lygad ar y Calendr Adfent a’n tudalennau Facebook a Twitter am lawer o syniadau crefft i’ch paratoi ar gyfer hwyl yr ŵyl!

Rhagor o wybodaeth

Y Nadolig yn Oriel Gelf Glynn Vivian

Mae sesiynau crefftau tymhorol yn cynnig y cyfle i chi alw heibio a mwynhau sesiynau crefft creadigol a difyr gan ddefnyddio’ch dychymyg a deunyddiau naturiol.

Maent yn addas ar gyfer plant 3+oed (rhaid i blant dan 10 oed fod yng nghwmni oedolyn). Cynhelir y sesiynau rhwng 11am a 12pm, rhwng 12.15pm a 1.15pm, a rhwng 1.30pm a 2.30pm. Mae’r sesiynau hyn am ddim (croesewir rhodd o £3)

I gadw lle ar-lein, ewch i: www.glynnvivian.co.uk

Rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn Abertawe’r Nadolig hwn