Mae’r cloc yn Tician…!
Mae pantomeim arobryn Abertawe yn ôl ac eleni, hoff stori o garpiau i gyfoeth pawb fydd dan sylw, Cinderella! Bydd y ffefrynnau teledu a’r deuawd ddawnsio AJ a CURTIS PRITCHARD yn ymddangos ynddo ynghyd â hoelion wyth panto Abertawe – yr hynod ddoniol a phoblogaidd KEV JOHNS a MATT EDWARDS, ochr yn ochr â chast llawn o berfformwyr dawnus.
Bydd Cinderella hefyd yn cynnwys set ddigidol drawiadol, arobryn, arall a holl elfennau traddodiadol y panto i ddod â rhywfaint o ddisgleirdeb i’ch Nadolig!! Mae tocynnau ar gyfer y panto hwn yn gwerthu’n gyflym, felly peidiwch â bod yn bwmpen, cadwch le’n gynnar cyn i’r cloc daro hanner nos!
Amser 10:00am, 1:00pm, 2:00pm, 5:00pm, 7:00pm
Pris £17.00 – £36.00
Perfformiadau Llofnod Dydd Iau 14 Rhag 7pm & Dydd Gwener 15 Rhag 2pm
Perfformiadau Hamddenol Dydd Mercher 3 Ion 2pm