fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe’n dychwelyd, ac mae’n addo bod yn fwy ac yn well nag erioed.

Cynhelir yr ŵyl rhwng dydd Iau 15 a dydd Mercher 19 Mehefin a bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o artistiaid jazz o bob cwr o’r byd.

Bydd yr ŵyl yn dechrau gyda pherfformiad gan Hoop, band pump aelod sy’n atgoffaol o’r cyfnod jazz ffync a roc. Cânt eu dilyn gan nifer o berfformwyr gwych eraill, gan gynnwys Band Mawr Llawn Sêr Laurence Cottle, Pedwarawd Jazz Sipsiwn Daniel John Martin, The Coalminers ac Iain MacKenzie.

Yn ogystal â’r prif gyngherddau, bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau eraill, gan gynnwys gweithdy a mordaith jazz. Bydd hefyd tua 30 o berfformiadau am ddim mewn bariau caffi, clybiau a thafarndai lleol.

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn gyfle gwych i brofi cerddoriaeth jazz o’r radd flaenaf, gydag amrywiaeth o arddulliau a genres cerddorol.

Dyma gipolwg manylach o rai o uchafbwyntiau’r ŵyl:

Hoop

Nos Iau 15 Mehefin, 8.30pm. Clwb Jazz Abertawe yn The Garage, Uplands.

Mae Hoop yn fand saith aelod o safon fyd-eang sy’n cyfuno ffync, roc a jazz. Maent wedi’u disgrifio fel “un o’r bandiau byw mwyaf cyffrous yn y DU”.

Band Mawr Llawn Sêr Laurence Cottle

Nos Wener 16 Mehefin, 8pm. Theatr Dylan Thomas, Ardal Forol.

Laurence Cottle yw un o brif gerddorion jazz a threfnwyr cerddoriaeth y DU. Mae ei Fand Mawr Llawn Sêr yn cynnwys rhai o gerddorion jazz a sesiwn gorau yn y wlad. Bydd y band yn archwilio esblygiad y Band Mawr dros y blynyddoedd, gan chwarae rhai o’r alawon gwych o ddyddiau cynnar y bandiau mawr hyd at Buddy Rich, Bob Brookmeyer, Jaco Pastorius a rhai o gyfansoddiadau gwych Laurence ei hun.

Pedwarawd Jazz Sipsiwn Daniel John Martin

Dydd Sadwrn 17 Mehefin, 2.30pm. Theatr Dylan Thomas, Ardal Forol.

Daniel John Martin, o baris, yw un o brif gitaryddion jazz sipsiwn Ewrop. Mae ei bedwarawd yn cynnwys rhai o’r cerddorion jazz sipsiwn gorau yn y wlad.

The Coalminers

Nos Sadwrn 17 Mehefin, 8pm. Theatr Dylan Thomas, Ardal Forol.

Band saith aelod yw The Coalminers sy’n cyfuno jazz traddodiadol ag elfennau gwerin a blŵs. Maen nhw wedi’u canmol am eu perfformiad “llawn egni” a’u “brwdfrydedd heintus”. Maent yn perfformio caneuon sy’n amrywio o steil Professor Longhair i Allen Toussaint, anthemau gorymdeithiau Mardi Gras a chlasuron roc a rôl Fats Domino, a ffync The Meters a Dr John.

Iain MacKenzie

Dydd Sul 18 Mehefin, 2.30pm. Theatr Dylan Thomas, Ardal Forol.

Mae Iain MacKenzie yn ganwr a chyfansoddwr jazz o’r Alban. Caiff ei ganmol am ei “lais pwerus” a’i “delyneg ddeallus”, ei lais sydd mor gyfoethog ag un Sinatra. Mae Iain yn ganwr preswyl yng ngwesty’r Savoy yn Llundain a Cherddorfa Jazz Ronnie Scott.

HHH a Mo Pleasure

Dydd Sul 18 Mehefin, 2.30pm. Theatr Dylan Thomas, Ardal Forol.

Gyda’i gilydd mae Triple H Horns a Mo Pleasure yn creu sain bwerus ac egnïol sy’n siŵr o wneud i’r gynulleidfa ddawnsio. Ar hyn o bryd mae Mo yn gyfarwyddwr cerddorol ar gyfer Bette Midler, a pherfformiodd y rôl ar gyfer Earth, Wind & Fire yn flaenorol. Dyma un o gerddorion sesiwn gorau’r UDA. Gallwch ddisgwyl noson gyffrous o gerddoriaeth gan fandiau fel Chaka Khan, Earth Wind and Fire, Avenge White Band a mwy.

 

Yn ogystal â’r prif gyngherddau, bydd yr ŵyl hefyd yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau eraill, gan gynnwys:

Gweithdy Jazz Cerdd Abertawe

– gweithdy ar gyfer cerddorion ifanc (Gradd 5) a gynhelir yn y prynhawn, trwy garedigrwydd Cerdd Abertawe a Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol i Gymru. Arweinir y gweithdy gan Fand Mawr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a bydd yn cynnwys amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys byrfyfyrio a chwarae mewn ensemble.

Mordaith Jazz y Copper Jack

– mordaith 90 munud o hyd ar afon Tawe yn Abertawe, gyda cherddoriaeth jazz fyw gan rai o’r cerddorion lleol gorau.

  • Dydd Sadwrn 17 Mehefin, 2.30pm: Deuawd Louis ac Ella
  • Dydd Sul 18 Mehefin, 2.30pm: Triawd Hoss a Norcross

Bonansa Canu Cyrn ar y Cyd

– bydd disgyblion Blwyddyn 3 Abertawe yn cael y cyfle i ddathlu eu cyflawniadau, creu cerddoriaeth, a theimlo’n dda, a bydd band mawr herfeiddiol gwych yn gefn iddynt. Ffordd wych o ddod â’r ŵyl i ben.

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe yn gyfle gwych i brofi cerddoriaeth jazz o’r radd flaenaf. Mae’r ŵyl hefyd yn ffordd wych o archwilio dinas Abertawe, sydd â hanes a diwylliant cyfoethog.

Dyma rai argymhellion ar sut i wneud yn fawr o’r ŵyl:

  • Prynwch eich tocynnau’n gynnar oherwydd mae’r ŵyl yn boblogaidd iawn fel arfer.
  • Trefnwch eich diwrnod ymlaen llaw fel nad ydych chi’n colli unrhyw un o’r perfformiadau gwych.
  • Manteisiwch ar y digwyddiadau am ddim. Mae’r Rhaglen Grwydro‘n ffordd wych o weld rhai o’r cerddorion jazz llawn addewid gorau.
  • Archwiliwch ddinas Abertawe a mwynhewch bopeth sydd ganddi i’w chynnig. Yn ardal gyfagos yr ŵyl mae Amgueddfa Abertawe, sy’n cynnwys arddangosfa Abertawe’r Ugeinfed Ganrif ar hyn o bryd.

Mae Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe’n ddigwyddiad gwych ar gyfer pobl o bob oedran sy’n dwlu ar jazz. Felly dewch i fwynhau’r gerddoriaeth!