fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Dydd Llun 19 Mehefin 2023 – Neuadd Brangwyn

Mae’n bleser gan Gerdd Abertawe gyflwyno Bonansa Canu Cyrn ar y Cyd ar gyfer yr holl athrawon a phlant ysgol sydd wedi cymryd rhan yn Rhaglen Profiadau Cyntaf y Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru.

Nod y Rhaglen Profiadau Cyntaf yw rhoi cyfle i ddisgyblion yng Nghymru ddysgu chwarae offeryn yn ogystal â chanu a chreu cerddoriaeth a chymryd rhan ynddi.Fel rhan o’r fenter darparwyd offerynnau pBuzz Cymru i ddisgyblion blwyddyn 3, sef offeryn i ddechreuwyr sy’n cyflwyno technegau pres mewn ffordd ddifyr a greddfol.

Ddydd Llun 19 Mehefin, bydd plant ysgol lleol sydd wedi bod yn defnyddio’r offerynnau pBuzz i greu cerddoriaeth yn ystod y flwyddyn yn cymryd rhan mewn cyngerdd ‘Canu Cyrn ar y Cyd’ arbennig yn Neuadd Brangwyn, diweddglo gwych i Ŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe eleni.

 

Dyddiad
19 MEH 2023
Lleoliad
Brangwyn Hall