Mae Cerdd Abertawe’n falch o gefnogi Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe, sy’n darparu cyfle ‘Profiadau Byw’ Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru i offerynwyr jazz ifanc yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Gwahoddir disgyblion o safon gradd 5 ac uwch i gymryd rhan mewn gweithdy am ddim gyda Band Mawr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC).
Gall y bobl ifanc sy’n cymryd rhan y gweithdy hefyd ddod i gyngerdd gan Fand Mawr CBCDC ddydd Sadwrn 17 Mehefin yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.