fbpx

Mae hanner tymor mis Hydref drosodd, mae’r clociau wedi newid ac mae’r nosweithiau’n tywyllu, ac rydych chi’n gwybod beth mae hynny’n ei olygu, mae’n amser dechrau cynllunio ar gyfer tymor yr ŵyl!

Mae Tachwedd prysur iawn ar y gweill yn Abertawe, gyda’n harddangosfa tân gwyllt, ein Gorymdaith y Nadolig a ffefrynnau Nadoligaidd eraill.

Felly darllenwch ymlaen i weld pa ddigwyddiadau sydd ar ddod y mis hwn!

Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe – Nos Sul 5 Tachwedd, St Helen

Ymunwch â ni ar 5 Tachwedd wrth i ni ddychwelyd i San Helen ar gyfer arddangosfa tân gwyllt ar thema ‘Noson yn y Ffilmiau’ ysblennydd!

Gatiau’n agor am 5pm gyda chroeso cynnes ar thema ffilm gan Fand Pres Penclawdd. Bydd adloniant cyn y sioe yn dechrau am 5.30pm a bydd yn cynnwys perfformwyr disglair, atyniadau a pherfformiadau ar thema ffilmiau.

Bydd bwyd, diod a byrbrydau arddull theatr ffilm ar gael i’w prynu yn ystod y digwyddiad gan ddetholiad o werthwyr bwyd ar y safle.

Food, drink and movie theatre style snacks will be available to purchase in the ground from a selection of on-site food-vendors.

Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad a Freedom Leisure

Mae gan Abertawe draddodiad balch o greu chwaraewyr gwych. Mae angen ymroddiad, penderfyniad ac oriau o waith caled i gynnal y ddinas chwaraeon rydyn ni’n ei hadnabod ac yn dwlu arni. P’un ai’r gwirfoddolwr neu’r hyfforddwr sy’n rhoi awr ar ôl awr o’i amser yn y cefndir, y tîm sydd wedi bod y mwyaf llwyddiannus trwy’r flwyddyn neu’r chwaraewr sydd wedi cyflawni’r mwyaf yn ei gamp, mae Abertawe’n ddinas sy’n llawn pencampwyr chwaraeon.

Rhagor o wybodaeth i ddod ar 6 Tachwedd 2023.

Cynhelir Gwobrau Chwaraeon Abertawe nos Iau 28 Mawrth 2024 yn y Brangwyn mewn cydweithrediad a Freedom Leisure.

Tocynnau ar werth Ionawr 2024.

Abertawe’n Cofio – Dydd Sadwrn 11 Tachwedd o 10:30am, St David’s Place

Ymunwch â ni St David’s Place o 10.30am tan 12pm, lle bydd Abertawe’n cofio am Ddydd y Cadoediad gyda 2 funud o ddistawrwydd am 11am i fyfyrio ar yr aberth a wnaed gan ddynion a menywod dewr ein lluoedd arfog.

Bydd y gwasanaeth yn dechrau tua 10.50am gyda’r distawrwydd am 11am, a Kevin Johns MBE fydd y cyflwynydd.

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau – 15 Tachwedd 2023 – 2 Ionawr 2024, Lawnt yr Amgueddfa

Mae hwyl yr ŵyl yn dychwelyd gyda Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, ac ni’n fyddai’n Nadolig Abertawe heb ychydig o ddawnsio ar yr iâ! Bydd y llyn iâ yn ôl a dan do – felly gallwch fynd ar yr iâ ym mhob tywydd! Gallwch brofi hwyl y ffair yng Ngwledd y Gaeaf ar y Glannau hefyd, sy’n cynnwys amrywiaeth o reidiau cyffrous sy’n addas i’r teulu cyfan.

Ac, os yw hyn i gyd yn gwneud i chi deimlo chwant bwyd, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â’r Pentref Alpaidd i gael ffefrynnau’r ŵyl gan gynnwys selsig Almaenig, gwin y gaeaf cynnes neu hyd yn oed malws melys wedi’u tostio. Eisteddwch a mwynhewch awyrgylch y Pentref Alpaidd gyda’ch ffrindiau a’ch teulu.

Gorymdaith y Nadolig Abertawe – Nos Sul 19 Tachwedd o 5pm, Canol y Ddinas

Mae amser gorau’r flwyddyn wedi cyrraedd! Ac mae gennym ni newyddion cyffrous i’w rhannu â chi. Ar 19 Tachwedd, cynhelir digwyddiad blynyddol Gorymdaith y Nadolig yng nghanol dinas Abertawe o 5pm.

Fyddwch chi ddim am golli’r digwyddiad Nadoligaidd hwn, a fydd yn cynnwys fflotiau lliwgar, grwpiau cymunedol, perfformwyr proffesiynol, archarwyr a thywysogesau, Siôn Corn a llawer mwy.

Ymunwch â ni am noson ddifyr o hwyl yr ŵyl. Dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau i fwynhau’r dathliad hudol hwn. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!

Straeon o’r Cromgelloedd 2 – 7-18 Tachwedd, Ystafell Ddarganfod, y Llyfrgell Ganolog

Dyma’ch cyfle i archwilio eitemau a thrysorau cudd nas gwelir yn aml o gasgliadau arbennig Llyfrgelloedd Abertawe.

Dewch i ddarganfod hanes Abertawe, ei phobl a’i lleoedd, drwy amser, gan ddechrau yn y cyfnod canol oesol a Siarter Abertawe, gan symud ymlaen wedyn i Bererinion Llanilltud Gŵyr a aeth i America ac yna i’r 18fed ganrif pryd gellid ystyried Abertawe fel ‘Brighton Cymru’, cyn edrych ar Abertawe Fictoraidd, y Rhyfel Byd 1af, Dylan Thomas, Badfinger, a rôl y ddinas yng nghyfres Doctor Who i enwi rhai yn unig.
Nid llyfrau’n unig sydd yng nghasgliadau arbennig Llyfrgelloedd Abertawe – mae ‘na hanesion, mapiau, arteffactau a cherfluniau a fydd hefyd yn helpu i adrodd hanes Abertawe.

Peidiwch â cholli’r cyfle prin hwn i archwilio casgliadau’r gwasanaeth llyfrgelloedd. Mae croeso i blant, a darperir ar eu cyfer gyda llwybr rhithrealiti a gweithgareddau ar thema yn y llyfrgell i blant.

Darganfod mwy

Marchnad Nadolig Abertawe – Dydd Gwener 24 Tachwedd – Dydd Merched 20 Rhagfyr

Mae crefftwyr dawnus, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd blasus yn dychwelyd i Farchnad Nadolig Abertawe o 24 Tachwedd i 20 Rhagfyr. Bydd cabanau Nadoligaidd ar hyd Stryd Rhydychen a Portland Street yn cynnig anrhegion unigryw, danteithion i’ch temtio ac addurniadau hardd.

Bydd y dathliadau’n dechrau ddydd Sadwrn 25 Tachwedd pan fydd Caban y Carolwr ar Portland Street a Marchnad Abertawe yn cynnal y digwyddiad gwych, Uchelwydd a Marchnadoedd. Caban y Carolwr yw’r canolbwynt hefyd ar gyfer rhaglen o adloniant Nadoligaidd, gan gynnwys corau ysgolion, am barhad Marchnad y Nadolig. Pan nad yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer perfformiadau, gallwch gamu i mewn i’r olygfa ddisglair a thynnu’r llun teuluol Nadoligaidd perffaith.

Cinderella, Theatr y Grand – Dydd Sadwrn 9 Rhagfyr – Dydd Sul, 7 Ionawr

Os ydych chi’n chwilio am ffordd ddifyr a Nadoligaidd o ddathlu tymor y Nadolig, mae gan Theatr y Grand Abertawe’r cynnig gorau i chi.

Bydd pantomeim eleni, sef cynhyrchiad gwych o Cinderella a gynhelir o ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr i ddydd Sul 7 Ionawr, yn cynnwys set ddigidol ysblennydd, digonedd o gynnwys y gynulleidfa a llawer iawn o chwerthin.

Archebwch eich tocynnau nawr

Neuadd Brangwyn

Dechreuwch y mis gyda’n datganiad organ amser cinio AM DDIM (7 Tachwedd).

Prynwch lu o anrhegion yn GypsyWishes Magickal Market (4 Tachwedd) lle bydd busnesau arbennig o bob rhan o Gymru.

Bydd Francis Rossi, prif leisydd Status Quo, yn ymuno â ni ar 14 Tachwedd i berfformio fersiynau acwstig arddull wreiddiol o glasuron Quo, a’r cyfan wedi’i fritho â sgwrs.

Peidiwch â cholli’r cyfle i weld esblygiad roc gyda The History of Rock (9 Tachwedd) gan gynnwys perfformiadau byw, delweddau gweledol syfrdanol a goleuadau trawiadol. Mae A Taste of Ireland (10 Tachwedd) yn dod â dawnswyr Gwyddelig, cerddorion gwerin a chantorion clodfawr ynghyd am noson o berfformiadau gweledol hardd, sioegarwch ac adroddiad barddol,

Bydd Côr Pontarddulais yn eich boddio yn eu cyngerdd flynyddol (25 Tachwedd) gyda’r artistiaid gwadd, Noteworthy Mixed Choir a’r telynor, Dylan Cernyw.

Bydd The Richard & Adam Christmas Tour a ddaw i’r Brangwyn ar 30 Tachwedd, yn siŵr o wneud i chi deimlo hwyl yr ŵyl! Bydd y ddeuawd o Britain’s Got Talent yn eich difyrru gyda ffefrynnau’r ŵyl gan gynnwys ‘Silent Night’ a ‘White Christmas’.

Rhagor o wybodaeth

Nadolig yn y Cwadrant

Y Nadolig yw adeg fwyaf hudol y flwyddyn, ac mae’r Cwadrant yn benderfynol o roi Nadolig a hanner i chi eleni! Mae prif ganolfan siopa Abertawe’n falch o fod yn gartref i siopau cenedlaethol ac annibynnol sy’n llawn anrhegion i gyffroi unrhyw un sy’n eu hagor ar fore Nadolig.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Nadolig

Mae llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau Nadoligaidd cyffrous i’w dewis yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Dewch i gwrdd â Siôn Corn am amser stori arbennig, mwynhewch de prynhawn Nadoligaidd, archwiliwch marchnadoedd crefftau neu cymerwch rhan mewn gweithdai coblynnod Nadoligaidd.

Mae yna hefyd gynigion tymhorol ac anrhegion a hamperi Cymreig hardd i chi eu darganfod yn siopau a chaffis yr Amgueddfa.

Gellir archebu rhai digwyddiadau a gweithgareddau ymlaen llaw, felly peidiwch â cholli allan!

Nadoligabertawe.com yw cartref ein hwyl yr wyl bob blwyddyn yn Abertawe, ac yma gallwch ddysgu am yr hyn sydd ar ddod dros y gaeaf. Digwyddiadau’r Nadolig, syniadau am anrhegion, gweithgareddau a mwy!