fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae’r haf hwn yn Abertawe yn un #IChiEiJoio

Rydym eisoes wedi cael digwyddiadau cerddoriaeth a chwaraeon enfawr hyd yma’r haf hwn ac mae llawer o bethau’n digwydd dros y mis nesaf hefyd i’ch cadw’n brysur! Cofiwch gymryd rhan yn ein cystadleuaeth lle gallech ennill camera Kodak Mini Shot – byddwch yn gallu tynnu ac argraffu lluniau yn y fan a’r lle!

StoryTrails

Dewch i Lyfrgell Ganolog Abertawe ar 10 ac 11 Awst rhwng 11am a 7pm i ddarganfod amrywiaeth o brofiadau realiti estynedig a rhithrealiti i’r teulu cyfan eu mwynhau.

Defnyddiwch fap rhithwir i archwilio straeon am eich ardal nas adroddwyd o’r blaen, a chymerwch ran mewn taith gerdded StoryTrails y gellir ymgolli ynddi.

Mae StoryTrails yn rhan o ‘UNBOXED: Creativity in the UK’, dathliad arloesol o greadigrwydd a gynhelir ar draws y DU yn 2022.

Rhagor o wybodaeth

Theatr Awyr Agored

Mae Theatr Quantum, sy’n ffefryn gyda theuluoedd, yn dod â chomedi glasurol Shakespeare o gariad a brad, hud a thryblith, yn fyw mewn cynhyrchiad hynod ddoniol ac afieithus o glasur Shakespeare. Cydiwch mewn blanced, picnic a ffrindiau i brofi noson o adloniant. A Midsummer Night’s Dream, Castell Ystumllwynarth, Awst 25, 7.30pm. Noddir gan Home from Home.

Archebwch tocynnau

Admiral 10k Bae Abertawe

Os ydych chi wedi bod yn ystyried cofrestru ar gyfer ras 10k Bae Abertawe ar 18 Medi, mae amser i wneud hynny o hyd. Mae’n llwybr gwastad, cyflym gyda digon o bethau i edrych arnynt a llawer o gefnogwyr i’ch cefnogi.

Cofrestrwch nawr!

Tîm Chwaraeon ac Iechyd

Mae gan y Tîm Chwaraeon ac Iechyd amserlen sy’n llawn dop yr haf hwn. Gallwch ddod o hyd i’r amserlen wythnosol arferol ynghyd â chwaraeon dŵr, aml-gampau, gwersylloedd GemauStryd a mynyddfyrddio.

Mae hefyd wersylloedd chwaraeon cynhwysol, Boccia, pêl-fasged cadair olwyn a beicio gyda chydymaith. Mae digonedd o sesiynau beicio ar gael, gan gynnwys rhai BMX, beiciau cydbwysedd a beicio mynydd yn ogystal â chwaraeon dŵr a gwersylloedd UsGirls. Cymerwch gipolwg ar yr amserlen lawn yma.

Archebwch tocynnau

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Dewch i fwynhau ac archwilio Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ystod ein horiau agor estynedig bob dydd Iau o 21 Gorffennaf – 1 Medi.

Gyda’r amgueddfa ar agor tan 9pm bob dydd Iau bydd gennych fwy o amser i gwrdd am goffi, crwydro’r arddangosfeydd, dysgu am orffennol diwydiannol Cymru yn yr amgueddfa a hefyd rhoi cynnig ar wneud rhaffau a phrintio llythrennau ar y wasg argraffu haearn hynaf yn Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Hurtrwydd Canol Haf yn y Cwadrant

O weithdai celf i weithgareddau syrcas, mae rhywbeth i bawb yn ystod ein hwythnos Hurtrwydd Canol Haf yn y Cwadrant  o 9 i 12 Awst.

A’r peth gorau yw bod popeth AM DDIM! Gwnewch yn siŵr ei fod yn haf i’w gofio gyda chymorth y Cwadrant!

Rhagor o wybodaeth

Bysus am ddim

Newyddion gwych! Mae’r gwasanaeth bysus am ddim yn dychwelyd ar gyfer yr haf! Bob dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun rhwng dydd Gwener 29 Gorffennaf a dydd Llun 29 Awst gallwch deithio i unrhyw le o fewn sir Abertawe am ddim! Gallwch fynd i’r dre, i’r traeth, i weld eich ffrindiau, teithio adre ar ôl mynd am dro hir neu fynd ar daith i ardal wahanol. Dewch i deithio!

Rhagor o wybodaeth

Atyniadau Awyr Agored

Gwnewch yn fawr o’r diwrnodau braf a’r tywydd cynhesach gyda’n hatyniadau yn yr awyr agored! Mwynhewch gêm o golff gwallgofreid ar alarch neu badlo yn y lido.

Rhagor o wybodaeth

Castell Ystumllwynarth

Beth am fynd i Gastell Ystumllwynarth yr haf hwn a darganfod (neu ailddarganfod) hanesion cudd y castell gydag un o’u tywyswyr gwirfoddol profiadol o Gyfeillion Castell Ystumllwynarth? Ddydd Llun Gŵyl y Banc gwisgwch eich hoff ffrog dywysoges a pharatowch eich cleddyfau pren ar gyfer diwrnod o gwrdd a chyfarch cymeriadau a fydd yn cerdded o gwmpas y lle – bydd eich hoff gymeriadau o straeon tylwyth teg yno, gyda cherddoriaeth a straeon yn cael eu hadrodd drwy gydol y dydd.

Rhagor o wybodaeth

Canolfan Dylan Thomas

Yr haf hwn, beth am fod yn greadigol yng Nghanolfan Dylan Thomas? Gallwch greu eich cymeriadau llyfr comig eich hun, creu cardiau post a nodiaduron i’w cadw, dylunio gêm fwrdd teithio neu ysgrifennu a darlunio eich stori haf eich hun mewn cyfres o weithdai ar thema darllediad radio Dylan, ‘Holiday Memory, sy’n adrodd stori Gŵyl y Banc mis Awst cofiadwy.

Hefyd ar gael i chi eu mwynhau yng Nghanolfan Dylan Thomas yw’r gweithgareddau hunanarweiniedig ‘Holiday Memory’, y llwybr i blant ‘Anifeiliaid Dylan’ sy’n mynd drwy’r arddangosfa gan archwilio bywyd a gwaith yr awdur, a theithiau tywys o Abertawe Dylan gan Gwmni Theatr Fluellen sy’n seiliedig ar berfformiad. Hefyd, mae’r tîm yn mynd â Sgwad Sgwennu’r Ifanc ar daith drwy’r ddinas gyda Llyfrgelloedd Abertawe!

Rhagor o wybodaeth

Hwyl yr Haf ym Marchnad Abertawe

Dewch i Ardd y Farchnad yr haf hwn ar gyfer celf a chrefft, paentio wynebau, amser chwarae yng Ngardd y Farchnad a chyfle i ennill gwobrau gwych i’r teulu gyda’n llwybr Ar Lan y Môr.

Hefyd, ddydd Sadwrn 3 Medi rydym yn cynnal ein Diwrnod Hwyl yr Haf! Bydd adloniant byw a gweithgareddau gwych a bydd y gwesteion arbennig Sonic The Hedgehog a Pikachu yn ymuno â Jack, Ci bach y Farchnad i sicrhau bod y diwrnod yn un arbennig iawn!

Rhagor o wybodaeth

Cyfle i ennill camera

Cofrestrwch ar gyfer ein cystadleuaeth haf am gyfle i ennill camera Kodak Mini Shot Instant. Gallwch dynnu lluniau o’r hwyl y byddwch chi’n ei chael yr haf hwn yn Abertawe a’u hargraffu’n syth!

Gallwch dynnu lluniau a’u hargraffu unrhyw bryd ac unrhyw le gyda’r Kodak Mini Shot 2 Retro. Argraffwch nhw’n syth o’r camera neu cysylltwch ef â dyfais symudol drwy Bluetooth i argraffu lluniau o’r oriel luniau’n gyflym ac yn ddi-drafferth. Cofrestrwch nawr.

Cofrestrwch nawr!