Ymunwch â ni yn Noc Tywysog Cymru, Abertawe wrth i athletwyr gorau’r bydd ddod ynghyd i gystadlu am y fedal aur ar draws y ddinas.
Yn ogystal â rasio o’r radd flaenaf, bydd hefyd ddigwyddiadau byw, bwyd a diod a phentref y digwyddiad i ddifyrru’r teulu cyfan, a bydd mynediad am ddim i’r digwyddiad!
Bydd y goreuon yn ymuno ag athletwyr addawol yn Uwch-gyfres Para Treiathlon Prydain yn ogystal â chyfle i gyfranogwyr gymryd rhan mewn rasys nofio, beicio a rhedeg a bydd y cyfan yn Noc Tywysog Cymru a Glannau SA1.
Cyflwynir y digwyddiad gan dîm Treiathlon Prydain mewn cydweithrediad â UK Sport, Treiathlon y Byd, Treiathlon Cymru, Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.
.