fbpx

Dail crensiog, tirweddau lliwgar, nosweithiau tywyllach a’r gwynt yn fain  – dim ond un peth y gall hyn ei olygu, mae’r hydref wedi cyrraedd ym Mae Abertawe ac mae’r Tîm Joio yn paratoi i oleuo’r misoedd tywyllach gyda llawer o ddigwyddiadau cyffrous! Darllenwch ymlaen i gael gwybod beth sy’n digwydd ym mis Hydref. 

Spooks in the City

Mae Ysbrydion yn y Ddinas yn ôl mewn lleoliad newydd sbon yng nghanol y ddinas!
Ymunwch â ni ddydd Sadwrn 28 Hydref o 11am wrth i St David’s Place Abertawe (ger hen siop Iceland) gael ei drawsnewid yn ardal arswydus!

Bydd y digwyddiad AM DDIM hwn yn cynnwys hwyl arswydus, gan gynnwys adloniant ar thema, paentio wynebau, reidiau difyr am ddim a sioeau byw gan ysgolion dawns Abertawe.
Bydd hefyd gyfle i chi gael tynnu’ch llun gyda Thrên Bach Bae Abertawe (a fydd wedi parcio), sydd wedi cael ei drawsnewid yn arbennig ar gyfer y tymor.

Mae croeso i chi wisgo’ch hoff wisg ffansi Calan Gaeaf ar gyfer yr achlysur – welwn ni chi yno!

Trên Bwganod Nos Galan Gaeaf

Ffordd frawychus o weld y bae. Ydych chi’n ddigon dewr i deithio ar drên yr ysbrydion?

Ewch ar daith arswydus y Calan Gaeaf hwn wrth i Drên Bach Bae Abertawe fynd ar daith frawychus ar hyd y promenâd.

Bydd y trên bach poblogaidd hwn wedi’i addurno’n frawychus ddydd Llun 30 a dydd Mawrth 31 Hydref, felly dewch yn eich gwisgoedd Calan Gaeaf gorau i fwynhau’r amgylchedd arswydus.

Bydd y trên yn gadael Lido Blackpill, rhaid prynu tocynnau ymlaen llaw felly archebwch nawr i osgoi cael eich siomi.

Joio Hwyl Calan Gaeaf yng Nghastell Ystumllwynarth

Hwyl Calan Gaeaf yn y Castell
Dydd Sadwrn 28 Hydref, ymunwch â’r bwganod direidus am lwybr Calan Gaeaf i’r teulu cyfan – bydd gwrachod, dewiniaid a hyd yn oed Arglwyddes Wen Ystumllwynarth. Gwisgwch i greu argraff.

Mynediad: £5.00 y plentyn (1 oedolyn am ddim os yw yno gyda phlentyn, £2.00 am yr oedolion eraill yn y grŵp). Am ddim i blant 2 oed ac yn iau.
Does dim angen cadw lle na phrynu tocyn ymlaen llaw.

Noson Fwganllyd yng Nghastell Ystumllwynarth 
Mae’n Nos Galan Gaeaf, ydych chi’n ddigon dewr i fynd i mewn i Gastell Ystumllwynarth? Dydych chi byth yn gwybod pwy fydd yno – mae’r preswylwyr yn aflonydd ond bydd eich tywysydd yno i’ch cadw chi’n ddiogel… gobeithio!

Cynhelir y digwyddiad nos Fawrth, 31 Hydref o 5.30pm i 10.00pm
Yn addas i blant 12+ oed a’r rheini nad ydynt yn nerfus. Mae’n rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Tocynnau.

Tuesday 31 October, slots from 5.30pm to 10.00pm. Suitable for ages 12+ and those not of a nervous disposition! Under 16s must be accompanied by an adult. Tickets.

Digwyddiadau y Neuadd Brangwyn

Mae nosweithiau roc clasurol a hudolus yn aros amdanoch yn y Brangwyn ym mis Hydref. Byddwch yn gweiddi “Don’t stop me now” yn Queen by Candlelight 6 Hydref a’n symud fel “Bat out of hell” i Meatloaf by Candlelight 28 Hydref. Peidiwch â cholli’r datganiad organ am ddim gan William Reynolds o Abertawe ar 10 Hydref.

Rydym yn croesawu sioe fusnes INTROBIZ Swansea and West Wales 26 Hydref, yn cynnwys siaradwyr, seminarau a chyflwyniadau’n arddangos y gorau o’r ddinas a’r rhanbarth.

Profwch yr angerdd a thân fflamenco gydag Art of Believing gan gwmni fflamenco Daniel Martinez 13 Hydref; noson o gerddoriaeth, canu a dawnsio. Ymunwch â ni ar 20 Hydref ar gyfer amrywiaeth syfrdanol o sbloet syrcas, carnifal a chlybio o sioe Calan Gaeaf deithiol fwyaf Ewrop, Festival of the Dead.

Peidiwch â bod yn Dursley, dewch i The Spectacular Music of Harry Potter 29 Hydref sy’n cynnwys cerddoriaeth o’r wyth ffilm wedi’i pherfformio gan y Gerddorfa Ffilm Genedlaethol syfrdanol.

Peidiwch ag oedi, archebwch eich tocynnau nawr ac ymunwch â ni ar gyfer mis Hydref bythgofiadwy yn y Brangwyn.

The Beginning – A Sense of Place

Mae 2023 yn nodi 70 mlynedd ers marwolaeth Dylan Thomas a’r perfformiad cyntaf o ‘Under Milk Wood’. I ddathlu’r achlysur, mae Cymdeithas Dylan Thomas a Thomas Hardy Society wedi dod ynghyd i gydlynu cynhadledd deuddydd yn Abertawe – The Beginning – A Sense of Place (27-29 Hyd). Bydd y penwythnos yn cynnwys sgyrsiau, teithiau, darlleniadau byw a hyd yn oed brechdanau spam a marmite!

 

Canolfan Dylan Thomas

Mae hanner tymor mis Hydref yng Nghanolfan Dylan Thomas bob amser yn llawn pethau gwych i’w gwneud, wrth i ni ddathlu pen-blwydd Dylan Thomas gydag ystod o weithgareddau difyr, am ddim. Bydd gennym weithgareddau hunanarweinedig creadigol ar thema’r hydref, llwybr dail newydd sbon o gwmpas ein harddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’, a gweithdy galw heibio i deuluoedd ddydd Gwener 3 Tachwedd o 1pm i 4pm. Pan fyddwch yn ymweld, cofiwch gael cip ar ein harddangosfa dros dro bresennol sy’n archwilio ‘drama i leisiau’ Dylan, Dan y Wenallt.

Glynn Vivian Diwrnod Calan Gaeaf i Deuluoedd

Bydd Oriel Gelf Glynn Vivian yn cynnal Diwrnod Calan Gaeaf i Deuluoedd ddydd Mawrth 31 Hydref gyda gweithdai a fydd yn cynnwys animeiddio arswydus, gwneud mygydau a phaentio wynebau! Cadwch eich lle nawr. Mae gweithdy ffeltio â nodwydd i oedolion hefyd ddydd Sadwrn 28 Hydref a bydd y Glynn Vivian gyda’r Hwyr yn dychwelyd nos Iau 26 Hydref gydag agoriad yr arddangosfeydd diweddaraf – rhan o Artes Mundi 10. Bydd y noson am ddim hon yn cynnwys gweithdai celf a chrefft, perfformiad, cerddoriaeth fyw, bar a chaffi!

Tîm Chwaraeon ac Iechyd

Byddwch yn actif gyda’r tîm Chwaraeon ac Iechyd. Dyma’r amser perffaith i fod yn actif. Ni waeth faint rydych chi’n ei wneud, mae gweithgarwch corfforol yn dda i’ch corff a’ch meddwl. Mae gennym amrywiaeth o weithgareddau yn cael eu cynnal dros yr hydref ar gyfer pob oedran. I ddarganfod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi ewch i’n gwedudalen neu dilynwch ni i gael diweddariadau rheolaidd ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan.

Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe

Arddangosfa Tân Gwyllt Flynyddol Abertawe! Bydd arddangosfa tân gwyllt y ddinas yn symud yn ôl i gae San Helen ddydd Sul 5 Tachwedd ar gyfer sioe ysblennydd ar thema ‘Night at the Movies’, na ddylid ei cholli.

Tocynnau ar gael!