Mae cwmni arobryn Daniel Martinez Flamenco yn dychwelyd gyda sioe fflamenco syfrdanol llawn emosiwn, angerdd a beiddgarwch.
Yn ôl oherwydd galw mawr, bydd y gynulleidfa’n mwynhau cyfansoddiadau o gynhyrchiad Daniel a enillodd wobr Herald Angel, Art of Believing, yn ogystal â darnau eraill nas gwelwyd o’r blaen sy’n llawn cerddoriaeth, canu a dawns.
Os ydych chi’n chwilio am berfformiad fflamenco go iawn, mae cwmni fflamenco Daniel Martinez a’i ddawnswyr a chyfansoddwyr rhagorol yn cynnig y perfformiad perffaith i chi.