fbpx
Theatr Awyr Agored 7 & 8 Awst
Archebwch Nawr

Y Dechrau – Cynhadledd ar y cyd rhwng Cymdeithas Dylan Thomas a Chymdeithas Thomas Hardy

Nodi 70 o flynyddoedd ers marwolaeth Dylan Thomas a’r perfformiad cyntaf o ‘Under Milk Wood’

Rhaglen:

Dydd Gwener

10.30 | Abertawe Dylan – taith gerdded gyda’r actor Adrian Metcalfe i fannau o ddiddordeb gan gynnwys Canolfan Dylan Thomas, Gwesty’r Queen’s, Theatr Dylan Thomas, Amgueddfa Abertawe a’r Stryd Fawr gan ddilyn rhan o straeon Dylan, Return Journey ac Old Garbo.

14.00 | Pen-blwydd hapus yn 109 oed Dylan – te parti yn ei fan geni gyda brechdanau spam a marmite, jeli a blancmange fel yr oedd ei ferch Aeronwy yn ei gofio fel merch 10 oed.

16.00 | William Barnes – Dylanwadau. Mentor i Hardy a oedd yn cyhoeddi ei waith yn nhafodiaeth leol Dorset ond roedd hefyd yn gyfarwydd â’r mesur caeth Cymraeg hefyd

Cymdeithas Thomas Hardy – yn Theatr DC

17.30 | Thomas, DJ a Dylan. Y dylanwad a oedd gan Hardy ar Dylan a’i dad

19.00 | Agoriad Swyddogol y Gynhadledd – anerchiad agoriadol gan brif siaradwyr – bwffe a derbyniad diodydd – Theatr Dylan Thomas. Dilynir hyn gan Ymdeimlad o Le – Wessex, Cymru, Llareggub – dylanwad lle ar waith Dylan a Hardy. Yr Athro Matt Jarvis o Brifysgol Abertawe a Mark Chutter o Gymdeithas Thomas Hardy yn sgwrsio ag Alun Gibbard

Dydd Sadwrn

09.00 – 16.00

9.00 | Dylan Ifanc yn Abertawe – Rhan o fywyd Dylan nad yw’n derbyn llawer o sylw er ei fod wedi ysgrifennu dau draean o’i waith cyhoeddedig yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r awdur a’r darlledwr Alun Gibbard yn dod â’i “…fyd o fewn byd…” yn fyw. Theatr Dylan Thomas.

10.30 i 15.30 | Extraordinary Little Cough – Bydd taith bws y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr Abertawe’n archwilio ymyl traeth crwn arbennig Bae Abertawe, y Mwmbwls, cartref Theatr Fach Abertawe, a de Gŵyr gan orffen yn Rhosili. Darlleniadau ar y ffordd o straeon byr a llythyron Dylan am benrhyn Gŵyr. Cinio yng Ngwesty’r King Arthur (nid ydym yn cynnwys y gost yn ffi’r gynhadledd).

16.30 | Dwlu ar y Geiriau – amser i ymweld ag arddangosfa Dylan Thomas, Amgueddfa Abertawe a Gŵyl Wyddoniaeth yr Amgueddfa Forol.

18.00 | Derbyniad bwffe – Theatr Dylan Thomas. Bydd hwn yn cynnwys ‘Hardy a Dylan’, rownd derfynol gystadleuaeth i ysgrifennu drama am gyfarfod dychmygol rhwng y ddau awdur a gyflwynwyd gan Gwmni Theatr Lighthouse – Theatr Dylan Thomas, dilynir hyn gan dderbyniad bwffe.

20.00 | O ‘Mad Town’ i Llareggub, Theatr Dylan Thomas – Aelodau o Theatr Fach Abertawe gyda darlleniad sydd wedi cael ei ymarfer o’u haddasiad newydd o ‘Adventures in the Skin Trade’ gan Dylan.

Dydd Sul

09.30 | Brecwast cyfandirol ysgafn – Pwy Laddodd Dylan Thomas? – Creodd Dylan y chwedl ynghylch amgylchiadau ei farwolaeth, ond beth yw’r stori wir? – Mae Rob Gittins, uwch-sgriptiwr ar Eastenders, wedi ysgrifennu dau lyfr a rhaglen ddogfen ar y teledu am ddyddiau olaf Dylan. Theatr Dylan Thomas

10.30| Patricia, Edith ac Arnold – taith o Uplands Dylan gan gynnwys lleoedd ei blentyndod, Parc Cwmdoncyn a thaith o fan geni Dylan Thomas gyda the a phice ar y maen. Grwpiau bach er mwyn caniatáu amser yn y man geni, cerdded os bydd y tywydd yn dda, neu fws mini

13.00 | Hwyl Fawr Amser Cinio

Cadwch le yma

£120 ar gyfer aelodau o Gymdeithas Dylan Thomas ac aelodau o Gymdeithas Thomas Hardy. £140 i bobl nad ydynt yn aelodau er mwyn cynnwys aelodaeth am flwyddyn ar gyfer Cymdeithasau DT a TH.