fbpx
Cymerwch gip ar beth sy'n digwydd ym Mae Abertawe...
Rhagor o wybodaeth...

Cynhelir digwyddiad Ysbrydion yn y Ddinas mewn lleoliad gwahanol – St David’s Place, ddydd Sadwrn, 26 Hydref 2024.

Mae Ysbrydion yn y Ddinas yn dychwelyd i ganol dinas Abertawe ddydd Sadwrn 26 Hydref 2024 yn St David’s Place!

Paratowch i gael blas ar fod yn wyddonydd gwallgof yn y digwyddiad bwganllyd a gynhelir ddydd Sadwrn 26 Hydref o 11am – 4pm yn St David’s Place Abertawe! Rydym yn troi St David’s Place yn labordy hwyl arswydus, gydag adloniant ar thema Calan Gaeaf, paentio wynebau a sioeau byw gan ysgolion dawns Abertawe.

 

  • Cynhelir gweithgareddau rhyngweithiol y Gwyddonydd Gwallgof o 12pm i 2pm.
  • Adloniant i deuluoedd ar thema Calan Gaeaf
  • Sioeau byw gan ysgolion dawns lleol
  • Gemau a rhyngweithio drwy gydol y dydd
  • Reidiau hwyl ar thema Calan Gaeaf, am ddim
  • Paentio wynebau a thatŵs aer
  • Gemau ar themâu gwyddoniaeth a Chalan Gaeaf

Gwisgwch lan, ymunwch â ni a pharatowch i gael amser arswydus o anhygoel!

Cefnogwr gan

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru: Help gyda chostau gofal plant i rieni cymwys â phlant 3 i 4 oed.
Oes angen help arnoch gyda chostau gofal plant? Dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, gallech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae’r cynllun gofal plant hwn a ariennir gan y llywodraeth yn ceisio lleihau’r baich o dalu costau gofal plant fel y gallwch wario’r arian rydych wedi’i gynilo ar y pethau sydd bwysicaf i’ch teulu.
Mae’r cynnig eisoes wedi helpu rhieni ledled Cymru i ddychwelyd i’r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio’n fwy hyblyg. Os ydych yn chwilio am swydd neu’n ystyried dychwelyd i fyd addysg neu hyfforddiant, ond rydych yn pryderu am gostau gofal plant, gallai’r cymorth hwn wneud byd o wahaniaeth.
Peidiwch â cholli allan ar eich cyfran chi o’r cyllid gofal plant hwn.
Gwnewch gais nawr i dderbyn gofal plant a ariennir o fis Medi 2024

Cyflwynwyd i chi gan
Swansea Council