Dydych chi byth yn gwybod pwy fydd yno – mae’r preswylwyr yn aflonydd ond bydd eich tywysydd yno i’ch cadw chi’n ddiogel… gobeithio!
Ymunwch â ni am daith dywys o’r castell yn ystod y nos ar Nos Galan Gaeaf.
Byddwn yn cwrdd yng Nghanolfan Ostreme 15 munud cyn i’ch taith ddechrau am groeso a lluniaeth.
Cynhelir y digwyddiad nos Fawrth, 31 Hydref o 5.30pm i 10.00pm. Mae pob taith yn para 40 munud.
Yn addas i blant 12+ oed a’r rheini nad ydynt yn nerfus. Mae’n rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Tocynnau: £16.88 y person (gyda ffi archebu), hefyd ar y noson o Ganolfan Ostreme, yn dibynnu ar argaeledd.
Bydd deiliaid tocynnau’n derbyn bandiau arddwrn i gael mynediad i’r castell.