Ymunwch â’r bwganod direidus am lwybr Calan Gaeaf i’r teulu cyfan – bydd gwrachod, dewiniaid a hyd yn oed Arglwyddes Wen Ystumllwynarth. Gwisgwch i greu argraff.
Mynediad: £5.00 y plentyn (1 oedolyn am ddim os yw yno gyda phlentyn, £2.00 am yr oedolion eraill yn y grŵp). Am ddim i blant 2 oed ac yn iau.
Does dim angen cadw lle na phrynu tocyn ymlaen llaw.
Man cwrdd: gatiau’r castell.
Amserau: 11.00am i 4.00pm, bob chwarter awr. Cewch eich tywys o amgylch y castell mewn grwpiau.