fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae rhaglen lawn o weithgareddau hanner tymor ar gynnig yn Abertawe, o ddychweliad gŵyl Croeso, ein dathliad Dydd Gŵyl Dewi flynyddol, i weithgareddau, gweithdai a rhagor yn lleoliadau diwylliannol a pharciau Abertawe. Cymerwch gip i weld beth sy’n digwydd!

Dewch lawr i Abertawe ddydd Gwener 25 a dydd Sadwrn 26 Chwefror ar gyfer gŵyl Croeso – y dathliad Dydd Gŵyl Dewi gorau posib.

Bydd yr ŵyl Gymreig ddeuddydd yng nghanol y ddinas, rhwng 11am a 5pm, yn cynnwys llu o arddangosiadau coginio a fydd yn cynnwys Nathan Davies o Great British Menu y BBC, Hywel Griffith, Bryn Williams, The Dirty Vegan sef Matt Pritchard a Sam a Shauna o Sam and Shauna’s Big Cook Out y BBC.

Gallwch hefyd fwynhau cerddoriaeth fyw yng ngŵyl Croeso gydag artistiaid o fyd ‘indie’ Cymru’n perfformio yn Sgwâr y Castell, gan gynnwys Mabli Gwynne, Lily Beau, Tapestri, Dafydd Hedd a Bwca.

Bydd gweithgareddau i’r teulu, bwya a diod, difyrwyr stryd, gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi a digon o gyfleoedd i siarad Cymraeg yng ngŵyl Croeso. Peidiwch â’i cholli, ewch â’r teulu a chymerwch ran – mae am ddim!

Rhagor o wybodaeth

Rhowch gynnig ar y Bagiau Synhwyraidd newydd yng Nghanolfan Dylan Thomas yr hanner tymor hwn

Mae Canolfan Dylan Thomas yn datblygu bagiau synhwyraidd newydd cyffrous i’w defnyddio yn eu harddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’, a byddant ar gael am y tro cyntaf yr hanner tymor hwn. Bwriad y bagiau yw gwella’r profiadau y caiff ymwelwyr sy’n mwynhau ac yn elwa o ryngweithio synhwyraidd yn yr arddangosfa. Ceir rhagor o wybodaeth yma a manylion sut i roi cynnig arnynt. Mae llu o weithgareddau difyr i’r teulu ar gael hefyd i chi eu casglu pan fyddwch yn ymweld neu i’w lawrlwytho o’r wefan. Mae rhai ohonynt yn dilyn thema’r anifeiliaid a geir yn ysgrifennu Dylan, felly cadwch lygad am falwod, dyfrgwn a dolffiniaid!
Rhagor o wybodaeth

Gan ddechrau ddydd Sadwrn 19 Chwefror, mae’r cynnig bysus am ddim hynod boblogaidd yn y ddinas yn ôl am ddau benwythnos hir ar ddechrau a diwedd wythnos hanner tymor.

Mae ar gyfer teithiau sy’n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe. Dyma’r ardal yn cael ei ffinio gan Gasllwchwr (Ship & Castle), Pontarddulais (yr Orsaf Drenau), Garnswllt, Clydach (Mynwent Coed Gwilym), Lon-lâs (Bowen Arms) a Phort Tennant (Bevans Row) felly mae’n cynnwys lleoedd fel Gorseinon, Pontarddulais, Gŵyr a Threforys.

Rhagor o wybodaeth

Hwyl hanner tymor gyda Llyfrgelloedd Abertawe

Mae gan Lyfrgelloedd Abertawe wythnos brysur o hwyl hanner tymor ar eich cyfer! Mae sesiynau Amser Rhigwm yn ôl i’r rhai bach yn ogystal â helfeydd trysor, Ioga Amser Stori, Amser Stori a sesiynau crefft, gweithdai garddio ymwybyddiaeth ofalgar a rhagor. Mae manylion llawn ynghylch pa weithgareddau sydd ar gael ym mhob llyfrgell ar gael ar-lein! Rhaid cadw lle ymlaen llaw, felly cadwch eich lle chi drwy ffonio’r llyfrgell.

Dod o hyd i fanylion cyswllt eich llyfrgelloedd ar-lein

Gweithdai a mwy yn y Glynn Vivian

Yn chwilio am bethau difyr i’w gwneud yn Abertawe dros hanner tymor? Ewch i Oriel Gelf Glynn Vivian ar gyfer gweithdai i’r teulu ddydd Mercher 23 a dydd Iau 24 Chwefror. Ymwelwch â’r gorsafoedd celf a chrefft gwahanol i greu campwaith cyfrwng cymysg! Yn addas i bob oed, darperir yr holl ddeunyddiau. £3 y plentyn neu mae consesiynau ar gael.

Gallwch hefyd gadw lle ar gyfer un o’r ffilmiau teuluol am ddim yn y Clwb Ffilmiau i Deuluoedd ddydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Chwefror sy’n cynnwys Coco gan Disney a The Chronicles of Narnia. Yn ystod eich ymweliad, beth am godi taflen lwybr newydd sbon yr Oriel, sy’n llawn gweithgareddau creadigol i’ch arwain o gwmpas yr arddangosfeydd. Mae’r siop a’r caffi ar agor sy’n gweini paninis ffres, teisennau cartref a diodydd twym ac oer. Mae’r oriel ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, 10.30am – 4.00pm. Ar gau ar ddydd Llun a dydd Mawrth.

Rhagor o wybodaeth

Mae gan ein Tîm Chwaraeon ac Iechyd yr union beth rydym wedi bod yn aros amdano’r hanner tymor hwn – rhaglen lawn o weithgareddau fel ParkLives ac Us Girls.

Yn cynnwys gwersylloedd aml-gamp i feicio mynydd, hoci i bêl-osgoi a sesiynau Us Girls newydd sbon, gan gynnwys breg-ddawnsio, clogfeinio a gynau NERF!

Yn ogystal â’n hamserlen wythnosol sy’n cynnwys T’ai Chi, Cerdded Nordig, mynyddfyrddio a Pilates.

Cymerwch gip ar yr amserlen lawn yma a chadwch eich lle.

10k Bae Abertawe Admiral

Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn dychwelyd ar 18 Medi 2022! Gellir cofrestru ar-lein yn awr ar gyfer ras 10k a rasys Iau eleni. Mae lleoedd yn llenwi’n gyflym, felly peidiwch â cholli’ch cyfle! Marciwch y dyddiad ar eich calendr a chofrestrwch ar-lein

Cofrestrwch ar-lein

Castell Ystumllwynarth – Dweud eich dweud

Rydym ni, ynghyd â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth, yn bwriadu archwilio opsiynau datblygu priodol i gefnogi sylfaen ymwelwyr gynyddol y castell a helpu i sicrhau ei ddefnydd parhaus fel adnodd cymunedol gwerthfawr.

Mae’r prosiect yn ceisio helpu i gynnal y Castell fel ased treftadaeth a thwristiaeth pwysig hyd y gellir rhagweld ac mae’n canolbwyntio ar y Castell ac nid y lleoliad parcdir ehangach.

Megis dechrau y mae’r gwaith ac mae’n dibynnu ar ystyriaethau cyllido a chynllunio.

Mae’n bwysig ein bod yn deall dyheadau preswylwyr ar gyfer datblygu Castell Ystumllwynarth yn y dyfodol a byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau’r holiadur byr isod.

Dyddiad cau: 28 Chwefror 2022 – llenwch yr arolwg ar-lein

Dyddiadau 2022 ar gyfer eich dyddiadur