Mae Orchard Live a Feels Like Summer yn falch o gyflwyno un o enwogion mwyaf y byd cerddoriaeth, Nile Rodgers a CHIC, ddydd Gwener 31 Gorffennaf ym Mharc Singleton, Abertawe ar gyfer ei unig sioe yng Nghymru yn 2020. Bydd tocynnau ar werth i bawb o 9am ddydd Gwener 13 Mawrth, a bydd nifer cyfyngedig o docynnau ar gael o ddydd Iau 12 Mawrth am 9am.
Cwestiynau Cyffredin gyngherddau Parc Singleton
Parc Singleton gyngherddau gwybodaeth a theithio
Ers sefydlu CHIC ym 1976, mae Rodgers wedi adeiladu catalog digyffelyb o ffefrynnau Mae ei gydweithrediadau ag artistiaid eiconig fel David Bowie, Diana Ross a Madonna, wedi arwain at werthu dros 500 miliwn o albymau a 75 miliwn o recordiau sengl ar draws y byd. Yn fwy diweddar, mae ei waith gyda Daft Punk, Disclosure, Sam Smith ac artistiaid eraill yn dangos gallu Rodgers i ragori ar bob math o gerddoriaeth, ar draws pob cenhedlaeth. Does dim terfyn i’w fedrusrwydd cerddorol.
Does dim amheuaeth mai Nile Rodgers a CHIC, sy’n enwog ar draws y byd am eu perfformiadau awyr agored trydanol mewn gwyliau fel Glastonbury a Coachella, yw’r band parti gorau. Wrth i’w caneuon poblogaidd gan gynnwys ‘Everybody Dance’, ‘Le Freak’, a ‘Good Times’ atseinio ar draws Parc Singelton i rythm gitâr y cyfansoddwr arobryn Rodgers, hwn fydd un o bartïon haf mwyaf cofiadwy Abertawe.