fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Dydd Sadwrn 4 Mehefin 2022

Mae’r canwr o’r Alban, Gerry Cinnamon, wedi cyhoeddi sioe awyr agored enfawr ym Mharc Singleton Abertawe ar nos Sadwrn 4 Mehefin 2022, dros benwythnos gŵyl banc y Jiwbilî. Gyda The Reytons a The Kooks.

  • Gatiau’n agor 3pm
  • Adloniant o 4.30pm
  • Cyrffyw 11pm

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Gerry yng ngwyliau Reading a Leeds, lle denodd un o dorfeydd mwyaf y penwythnos, bydd y sioe yn Abertawe’n un o nifer bach o sioeau lle gall ei gefnogwyr ei weld yn perfformio yn yr awyr agored yn y DU yn ystod haf 2022, gyda’r daith hefyd yn cynnwys sioe yn ei dref enedigol yn stadiwm cenedlaethol Parc Hampden yn Glasgow, y gwerthwyd pob tocyn ar ei chyfer.

gwybodaeth a theithio
Cwestiynau Cyffredin gyngherddau

Cynhelir sioe Abertawe ym Mharc Singleton, un o barciau canol dinas prydferthaf y DU, gyda’i ardd fotaneg furiog enwog a’i lwybrau cerdded coetirol, ac mae’n dilyn sioeau llwyddiannus diweddar gan Stereophonics a Catfish and the Bottlemen. Caiff manylion yr artistiaid ategol ar gyfer y sioe hon eu rhyddhau’n fuan.

Mae llwyddiant parhaus Gerry Cinnamon yn un o straeon mwyaf eithriadol cerddoriaeth gyfoes. Ar ôl cyhoeddi’i albwm gyntaf ar ei ben ei hun, mae Gerry bellach yn brif atyniad sy’n perfformio mewn stadia ac arenâu llawn. Ac fel artist y mae ei ganeuon gonest yn cysylltu’n naturiol â chynulleidfa enfawr a ffyddlon, mae wedi llwyddo i wneud y cyfan ar ei ben ei hun.

Ym mis Ebrill 2020, aeth ail albwm Gerry, ‘The Bonny’ i rif 1 yn Siart Albymau Swyddogol y DU. Yn yr un flwyddyn enwyd yr albwm, sydd bellach yn albwm aur, fel y drydedd albwm fwyaf poblogaidd a gyhoeddwyd yn y DU y flwyddyn honno.

Mae Gerry wedi llwyddo i adeiladu cymuned enfawr o ddilynwyr dros y 4 blynedd diwethaf, a’r cyfan mewn ffordd organig. Mae bellach yn un o artistiaid annibynnol mwyaf y DU, a’i daith ddiwethaf oedd ail daith fwyaf y DU yn 2019, yn ôl gwerthiannau tocynnau.

Gwerthwyd pob tocyn o fewn munudau ar gyfer ei sioe yng Nghastell Caerdydd, a gyhoeddwyd yn flaenorol.

TOCYNNAU AR WERTH DDYDD GWENER 24 MEDI AM 10 AM DRWY

GIGANTIC.COM EVENTIM.CO.UK

Mwynhewch y fideo byw ar gyfer ‘Where We’re Going’ – GWYLIO

‘THE BONNY’ – GWRANDEWCH YMA – ALBWM A GYRHAEDDODD BRIG Y SIARTIAU YN Y DU AC IWERDDON

“Mae’r dyn yn perfformio ar ei orau ar The Bonny ….mae digon o ddeunydd ar hon i’n helpu i freuddwydio am amserau gwell o’n blaenau.” – NME

casgliad o ganeuon llawn empathi…dathliad syml Cinnamon o’r gwir plaen sy’n cyd-fynd â’r oes.” The Scotsman

“Y perfformiwr stadiwm sy’n gwneud y cyfan ei hunan.” BBC

“Mae’r Glaswegiad wedi creu cymuned sy’n frwd dros ei anthemau acwstig gonest.”The Guardia

“Gerry Cinnamon yw ein harwr gwerin nesaf.”Big Issue

“Dyn penigamp sy’n gwneud pethau arallfydol.” – Liam Gallagher

“Mae ei gelfyddyd yn hollol bur  – drwy gadw at y caneuon, mae’n byw neu’n marw yn ôl ansawdd ei gerddoriaeth.” – i

Official website

Spotify

YouTube

Instagram

Facebook

Twitter

Dyddiad
04 MEH 2022
Lleoliad
Singleton Park