Mae Sioe Awyr Cymru, sy’n cynnwys arddangosiadau erobateg gwefreiddiol, awyrennau milwrol cyfoes ac awyrennau o’r oes a fu, yn diddanu miloedd ar filoedd o ymwelwyr ym Mae Abertawe bob blwyddyn. Gallwch ddisgwyl gweld arddangosiadau awyr cyffrous, arddangosiadau anhygoel ar y ddaear, adloniant a llawer mwy. I gael y newyddion diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Oes gennych ddiddordeb mewn noddi’r digwyddiad hwn?
Mae cyfleoedd nawdd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae pecynnau ar gael sy’n addas i bob cyllideb y gellir eu teilwra i ddiwallu’ch anghenion a’ch amcanion. I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni, e-bostiwch sales@swansea.gov.uk
01-02 GOR
10:00am - 18:00pm
01-02 GOR
10:00am - 18:00pm