fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Mae hanner tymor mis Hydref drosodd, mae’r clociau wedi newid ac mae’r nosweithiau’n tywyllu, ac rydych chi’n gwybod beth mae hynny’n ei olygu – mae tân gwyllt a thymor yr ŵyl ar ddod!

Mae Tachwedd prysur iawn ar y gweill yn Abertawe, gyda’n harddangosfa tân gwyllt, ein Gorymdaith y Nadolig a ffefrynnau Nadoligaidd eraill. Felly darllenwch ymlaen i weld pa ddigwyddiadau sydd ar ddod y mis hwn!

Distawrwydd yn y Sgwâr

Dydd Iau 11 Tachwedd, Sgŵar y Castell

Ymunwch â ni yn Sgwâr y Castell o 10.30am tan 12pm ar gyfer ein digwyddiad Distawrwydd yn y Sgwâr blynyddol, lle bydd Abertawe’n cofio am Ddydd y Cadoediad gyda 2 funud o ddistawrwydd am 11am i fyfyrio ar yr aberth a wnaed gan ddynion a menywod dewr ein lluoedd arfog.

Rhagor o wybodaeth

 

Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe

Nos Wener 12 Tachwedd, Bae Abertawe

Ymunwch â ni ar Fae Abertawe nos Wener 12 Tachwedd o 6pm ar gyfer ein harddangosfa tân gwyllt am ddim! Cynhelir arddangosfa syfrdanol eleni ar draeth Abertawe, gyda stondinau bwyd a diod yn agor o 6pm a’r tân gwyllt yn dechrau am 7pm.

Rhagor o wybodaeth
Gwybodaeth am barcio a theithio
Cwestiynau Cyffredin

Cefnogwyr Arddangosfa Tân Gwyllt Cyngor Abertawe

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau

12 Tachwedd 2021 – 3 Ionawr 2022, Lawnt yr Amgueddfa

Caiff Gwledd y Gaeaf ar y Glannau ei thrawsnewid ar gyfer Nadolig 2021 gyda hoff atyniadau pawb – gan gynnwys Pentref Alpaidd newydd a gwell, mwy o atyniadau ffair a llwybr iâ newydd sbon, yn ogystal â’r llyn iâ dan do poblogaidd. Wedi’i chyflwyno gan Sayers Events ac A2H Live, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe.

Rhagor o wybodaeth ac archebu tocynnau sglefrio iâ

Gorymdaith y Nadolig Abertawe

Nos Sul 21 Tachwedd o 5pm, Canol y Ddinas

Mae Gorymdaith y Nadolig Abertawe’n dychwelyd nos Sul 21 Tachwedd, gyda Siôn Corn yn cyrraedd i gynnau goleuadau’r Nadolig a nodi dechrau tymor yr ŵyl! Paratowch ar gyfer bandiau gorymdeithio, fflotiau hudol, cymeriadau sy’n disgleirio, offer chwyddadwy a mwy!

Rhagor o wybodaeth

 

 

Marchnad Nadolig Abertawe

Dydd Gwener 26 Tachwedd – Dydd Mawrth 21 Rhagfyr 2021

Mae Marchnad Nadolig Abertawe’n dychwelyd i ganol y ddinas y Nadolig hwn gyda llu o grefftwyr talentog, masnachwyr traddodiadol a gwerthwyr bwyd stryd blasus. Dyma’r lle perffaith i ddod o hyd i anrheg i rywun arbennig a mwynhau bwyd a diod blasus wrth siopa.

Rhagor o wybodaeth

 

 

Nadolig yn y Cwadrant

Y Nadolig yw adeg fwyaf hudol y flwyddyn, ac mae’r Cwadrant yn benderfynol o roi Nadolig a hanner i chi eleni!
Mae prif ganolfan siopa Abertawe’n falch o fod yn gartref i siopau cenedlaethol ac annibynnol sy’n llawn anrhegion i gyffroi unrhyw un sy’n eu hagor ar fore Nadolig.

Rhagor o wybodaeth