fbpx

Ble bydd yn digwydd?

Cynhelir yr arddangosfa ym Maes Rygbi a Chriced San Helen, Bryn Road, Brynmill, Abertawe SA2 0AR. Mae tocynnau ar gael o £2 y person.

Sut mae cyrraedd y lle?

Cymerwch gip ar ein gwybodaeth am deithio a pharcio

A fydd unrhyw leoedd parcio ar gael?

Cymerwch gip ar ein gwybodaeth am deithio a pharcio

Oes unrhyw ardaloedd hygyrch ar gael i wylio’r arddangosfa?

Bydd ardal wylio i bobl anabl yn ystod arddangosfa eleni o fewn maes San Helen

A fydd cyfleusterau cymorth cyntaf ar gael?

Bydd ein timau Cymorth Cyntaf a ddarperir gan Ambiwlans Sant Ioan yn bresennol ar y safle drwy gydol y digwyddiad, gyda gorsafoedd Cymorth Cyntaf dynodedig yn arena’r digwyddiad ei hun.

Oes angen tocyn arna i?

Mae tocynnau ar gael yma 

Tocynnau yn dechrau o £2 yn unig:

Ymlaen llaw Ar y Diwrnod
Oedolion £4 £5
Plant / Consesiwn* £3 £4
PIH** £2 £3
Teulu (2 Oedolyn a hyd at 3 consesiwn) £10 £15

*Plant 3 oed neu’n iau – am ddim

* Consesiwn: Plant dan 16 oed, dros 64 a myfyrwyr gyda cherdyn adnabod myfyriwr

** Bydd angen dangos cerdyn PIH ar y noson

Alla i ddod â fy nhân gwyllt fy hun?

NA ALLWCH – Er budd diogelwch y cyhoedd, ni ellir dod â thân gwyllt i’r digwyddiad.

A fydd cŵn yn gallu dod?

Ni chaniateir cŵn ym Maes San Helen. Sylwer, bydd y digwyddiad hwn yn swnllyd iawn. Byddem yn awgrymu eich bod yn gadael eich anifeiliaid anwes gartref. Peidiwch â gadael anifeiliaid anwes yn eich car.

Sut gallaf ddiogelu fy anifeiliaid anwes yn ystod yr arddangosfa tân gwyllt?

Cadwch anifeiliaid dan do yn ystod yr arddangosfa tân gwyllt (rhwng 7.00pm a 7.30pm ar gyfer y digwyddiad hwn). Sicrhewch eich bod chi’n cerdded eich ci yn gynharach yn y dydd cyn i’r tân gwyllt ddechrau. Caewch eich ffenestri a’ch drysau a rhwystrwch ddrysau cathod er mwyn atal anifeiliaid anwes rhag dianc ac i gadw lefelau sŵn i’r lefel lleiaf posib.

Caewch eich llenni, ac os yw’r anifeiliaid wedi arfer â synau’r teledu neu’r radio, trowch nhw ymlaen (ond sicrhewch nad yw’r sŵn yn rhy uchel) er mwyn atal ychydig o sŵn y tân gwyllt. Efallai bod gwerth rhoi deunyddiau cysgu ychwanegol i’ch anifail anwes er mwyn iddynt deimlo’n fwy diogel.

Os ydych chi’n gwybod bod eich anifeiliaid yn ymateb yn wael i synau uchel, efallai dylech ystyried eu symud am y noson.

A fydd bwyd a diod ar gael?

Bydd nifer o doiledau symudol ym Maes San Helen

Pa mor swnllyd fydd y digwyddiad?

Digwyddiad awyr agored mawr yw hwn gyda system sain a thân gwyllt mawr. Os ydych chi’n poeni am y sŵn, rydym yn argymell defnyddio amddiffynwyr clustiau. Efallai y bydd y sŵn yn teithio’n bellach na’r disgwyl, yn dibynnu ar gyfeiriad a chyflymder y gwynt.

Oes parcio hygyrch ar gael?

Gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth am gau ffyrdd yma.

Os yw’r arddangosfa tân gwyllt yn digwydd dros y bae, alla i hwylio yno o hyd?

Gallwch, byddwch yn gallu hwylio yn y bae ond sylwer y bydd y Marina’n gweithredu dan oriau’r gaeaf ac yn cau am 7pm.

Ble mae’r lle gorau i weld yr holl arddangosiadau?

Rydym yn argymell unrhyw le ar hyd promenâd Abertawe, o’r Ganolfan Ddinesig i’r Senotaff, ond gellid gweld yr arddangosfa o leoliadau ar draws y bae, yn dibynnu ar y tywydd.

Rwyf ar y safle ac rwyf wedi bod yn dyst i ladrad/ymosodiad/rywbeth drwgdybus, beth dylwn i ei wneud?

Bydd staff diogelwch a Heddlu De Cymru i’w gweld ar y safle a byddant yn patrolio yn arena’r digwyddiad ac yn yr ardal gyfagos. Os byddwch yn gweld rhywbeth drwgdybus, adroddwch amdano i staff diogelwch neu stiward ar unwaith.

Fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal os bydd hi’n bwrw glaw?

Bydd – bydd yr arddangosfa tân gwyllt yn cael ei chynnal yn y glaw ond os bydd y tywydd yn mynd yn rhy wyntog neu os bydd gwelededd yn lleihau oherwydd cymylau isel neu niwl, yna bydd yr arddangosfa’n gorfod aros nes ei fod yn clirio neu caiff ei gohirio. Bydd gennym syniad da rai diwrnodau o flaen llaw o sut dywydd fydd gennym ar y noson a byddwn yn dweud wrth bawb drwy gyfryngau cymdeithasol am unrhyw newidiadau arfaethedig.

A fydd modd i mi gael mynediad i Ysbyty Singleton?

Nid effeithir ar Ysbyty Singleton, a bydd modd cael mynediad iddo fel arfer.

Alla i gael mynediad i Brifysgol Abertawe o hyd?

Nid effeithir ar Brifysgol Abertawe, a gellir cael mynediad iddi fel arfer.

Fydd unrhyw ffyrdd ar gau?

Bydd, i sicrhau diogelwch gwylwyr bydd Mumbles Road ar gau rhwng 5pm a 9pm rhwng y Ganolfan Ddinesig a Brynmill Lane ar ddwy ochr y briffordd ond caiff ei hagor eto cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny. Bydd arwyddion dargyfeirio ar waith. Mwy o wybodaeth.

Faint o draffig a ddisgwylir?

Fel y byddech yn ei ddisgwyl ar gyfer digwyddiad o’r maint hwn, bydd llawer o draffig yn yr ardal. Rydym yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosib, ond cynlluniwch eich taith yn unol â hyn.

Oni fydd traffig ar ôl y digwyddiad hefyd?

Fel gyda’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau, fel gwyliau neu ddigwyddiadau chwaraeon, gellir disgwyl llawer iawn o draffig wrth i bawb geisio gadael y digwyddiad ar yr un pryd. Rydym yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod cyn lleied o darfu â phosib, ond cynlluniwch eich taith yn unol â hyn.

Pam nad yw’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar y traeth eleni?

Mae’r arddangosfa tân gwyllt flynyddol ym maes San Helen wedi cael ei gynnal ers dros 35 o flynyddoedd, a’r unig newid i hynny oedd pan gynhaliwyd digwyddiadau am ddim gan y cyngor yn 2019 a 2021 fel dathliad untro o ben-blwydd y ddinas yn 50 oed ac yna i annog pobl i ddychwelyd i ddigwyddiadau ar raddfa fawr gyda mwy o hyder ar ôl y pandemig.

Pam nad yw’r digwyddiad am ddim eleni?

Mae’r arddangosfa tân gwyllt flynyddol ym maes San Helen wedi cael ei gynnal ers dros 35 o flynyddoedd, a’r unig newid i hynny oedd pan gynhaliwyd digwyddiadau am ddim gan y cyngor yn 2019 a 2021 fel dathliad untro o ben-blwydd y ddinas yn 50 oed ac yna i annog pobl i ddychwelyd i ddigwyddiadau ar raddfa fawr gyda mwy o hyder ar ôl y pandemig. Fodd bynnag, er gwaethaf chwyddiant sy’n codi a chostau cyflenwyr cynyddol, bydd y digwyddiad yn dychwelyd eleni ond, gan gydnabod bod pawb yn teimlo’r straen, mae tocynnau’n llawer rhatach nag yr oeddent yn 2018 lle roedd gofyn i deuluoedd o bump dalu £21 ac roedd gofyn i oedolyn unigol dalu £6.

A fydd modd i mi brynu tocynnau ar y noson?

Bydd, cyn belled nad yw’r digwyddiad wedi gwerthu pob tocyn ymlaen llaw, bydd tocynnau ar gael wrth y gât am y prisiau canlynol.

Ymlaen llaw Ar y Diwrnod
Oedolion £4 £5
Plant / Consesiwn* £3 £4
PIH** £2 £3
Teulu (2 Oedolyn a hyd at 3 consesiwn) £10 £15

*Plant 3 oed neu’n iau – am ddim

* Consesiwn: Plant dan 16 oed, dros 64 a myfyrwyr gyda cherdyn adnabod myfyriwr

** Bydd angen dangos cerdyn PIH ar y noson

Pa adloniant fydd ar gael?

Cyn y tân gwyllt, bydd rhestr lawn o berfformwyr gan gynnwys Band Pres Pen-clawdd, cerddoriaeth o’r ffilmiau, perfformiadau gan gymeriadau a dawnswyr.

Bydd digonedd o’ch hoff gymeriadau o’r ffilmiau yn ymweld â ni gan gynnwys Barbie, Spider-man, Batman a’i ‘Batmobile’, Wonder Woman ac arwyr Star Wars fel Boba Fett a Darth Vader. Cadwch lygad am rai o breswylwyr Jurassic Park hefyd!

Bydd amserlen y llwyfan yn gorffen gyda pherfformiad goleuadau arbennig gan yr artistiaid golau ‘Halo’, yna am 7:00pm, byddwn yn goleuo’r awyr gyda’n harddangosfa tân gwyllt anhygoel!