fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Antur Fach yn y Mwmbwls

Share

Antur Fach yn y Mwmbwls

  • Ymwelwch phentref cartrefol ond cosmopolitaidd y Mwmbwls. Yn llawn cymeriad lleol a swyn, mae’r Mwmbwls yn gartref i grefftau a wnaed â llaw, bwtigau moethus a hufen iâ gorau’r byd, yn ôl y sôn. Peidiwch â cholli Lovespoon Gallery (yr arbenigwyr gwreiddiol sy’n cynnig y casgliad mwyaf o ddyluniadau llwyau caru gan y cerfwyr llwyau caru gorau yng Nghymru) na Gower Gallery, sy’n cynnwys detholiad bythol newidiol o baentiadau, cerameg, cerfluniau ac argraffiadau cyfyngedig o brintiau Giclee. Mae llawer o’r gwaith wedi’i ysbrydoli gan arfordir hardd Gŵyr, gyda phaentiadau o olygfeydd eiconig megis Bae Langland, Bae’r Tri Chlogwyn, Bae Caswell, Bae Oxwich a Bae Rhosili.
  • Ewch draw i Verdi’s am ginio, teisen neu hufen iâ! Mae Verdi’s yn gaffi, yn barlwr hufen iâ ac yn fwyty trwyddedig teuluol yn y Mwmbwls a chanddo enw da am flas ac ansawdd Eidalaidd gwirioneddol. Wedi’i leoli ar lan y môr, mae Verdi’s yn edrych dros fae hardd Abertawe.
  • Mwynhewch eich pryd gyda’r hwyr ynBistrot Pierre. Mae gan y bwyty deulawr hwn, sydd wedi’i agor yn ddiweddar, ffenestri llawr-i-nenfwd trawiadol, ystafelloedd mewnol hyfryd Ffrengig eu naws, ardal far a seddi y tu allan.
  • Mwynhewch arhosiad dros nos yng Ngwesty Langland Cove, gwely a brecwast ffasiynol yn y Mwmbwls sy’n cynnig croeso cynnes gwesty teuluol, 200 metr yn unig o draethau hyfryd Bae Langland.
  • Ewch i Gastell Ystumllwynarth. Lleolir Castell Ystumllwynarth ar ben bryn yn y Mwmbwls gan gynnig golygfeydd trawiadol dros Fae Abertawe, celf graffiti hynafol o’r 14eg ganrif a drysfa ganoloesol o gromgelloedd dwfn a grisiau cudd. Yr oriau agor ar gyfer 2018 yw dydd Sul 1 Ebrill tan ddydd Sul 30 Medi 2018 rhwng 11am a 5pm.
  • Dewch i weld Pier y Mwmbwls, a gafodd ei adeiladu ym 1898 ac a ddaeth yn un o nodweddion amlycaf Bae Abertawe o Oes Fictoria. Mae’r safle’n cynnwys ale ddifyrion, caffi The Beach Hut a nifer o atyniadau eraill gan gynnwys ale fowlio fach, theatr XD a Llyn Cychod Môr-ladron. Mae gorsaf RLNI o’r radd flaenaf sydd ar agor i ymwelwyr ar ben y pier..

 
Rhannwch eich profiadau a’ch lluniau o’ch gwyliau â ni, dilynwch ni ar Facebook a Twitter a chofiwch ddefnyddio’r hashnod: #HwylBaeAbertawe. Mwynhewch!