Yn dilyn y cyngor diweddar gan y llywodraeth, mae’r lleoliad hwn ar gau dros dro. Cysylltwch â’r lleoliad yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth ac os oes gennych unrhyw ymholiadau.
01792 824117
https://www.bistrotpierre.co.uk/locations/mumbles/
Partner Swyddogol
Bistrot Pierre
Raison d'être Bistrot Pierre yw coginio Ffrengig o safon, am bris da, a bwydlenni tymhorol. Rydyn ni'n hoffi cyfuno clasuron y bistrot Ffrengig, fel steak-frites, boeuf bourguignon a crème brûlée gyda'n fersiynau ni o ffefrynnau rhanbarthol fel confit de canard a paté de campagne. Ein bistrot hamddenol a chyfeillgar yw'r lle perffaith ar gyfer unrhyw achlysur.
Mae gan y bwyty deulawr, â lle i 160 o bobl, ffenestri llawr-i-nenfwd trawiadol, addurno mewnol bendigedig à la française, ardal far a seddi y tu allan. Mae'r ystafell fwyta breifat arbennig yn cynnig golygfeydd rhyfeddol ar draws Bae Abertawe, gan ddiwallu anghenion unrhyw achlysur arbennig gyda theulu a chyfeillion. Gall gynnig ciniawa traddodiadol neu ginio gweithio i hyd at 20 o bobl.
Ar agor saith niwrnod yr wythnos gan gynnwys brecwast, cinio a chinio gyda'r nos, felly mae gennym rywbeth i bawb, o'r cinio dau gwrs prix-fixe am £11.95 a bwydlen dau gwrs cyn theatr am £14.95 i'r fwydlen foethus à la carte. Ac i'r sawl sydd ag ychydig o amser, rydyn ni hefyd yn cynnig bwydlen cinio un cwrs am £9.95 yn unig.
Am rywbeth ychydig yn fwy unigryw, cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau yn y bistrot. Ymunwch â ni ar ail a phedwaredd nos Fawrth y mis ar gyfer ein Soirée Gastronomique, sef bwydlen sefydlog chwe chwrs sy'n cynnig bwyd lleol llawn cymeriad. Dyma werth arbennig am arian, gyda phris o £22.95 y pen. Yn ogystal, rydyn ni'n cynnig noson o Giniawa a Gwin lle mae pob cwrs yn cynnwys gwydraid o win wedi'i ddewis yn arbennig. Cynhelir y nosweithiau hyn ar nos Fercher gyntaf a thrydedd nos Fercher y mis, felly ymunwch â ni am fwydlen cinio nos sefydlog o ddau neu dri chwrs am £22.95/£27.95 y pen.
Rydyn ni am sicrhau bod rhywbeth i bawb ar ein bwydlenni, ni waeth eich gofynion deietegol. Dyna pam y cewch ddewis o ddigonedd o blatiau di-glwten blasus hefyd, yn ogystal â bwydlen i blant.
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Oriau agor
Restaurant & Bar:
Everyday: 9am to 6pm
Cyswllt
3 Oyster Wharf
Mumbles Road
Mumbles
Swansea
SA3 4DN
Gwobrau
Food Hygiene Rating 5
Swansea Bay Tourism Awards - Finalist
Trip Advisor 2019 Certificate of Excellence
Bwyd
Hygyrchedd