fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

 

Blwyddyn newydd dda! Mae gan 2024 ddigon i’w gynnig ac mae ein digwyddiad cyntaf ychydig wythnosau i ffwrdd, sy’n ffordd wych o ddechrau’r flwyddyn newydd.

Byddwn yn dechrau dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda digwyddiad coginio Croeso 2024 yn ystod penwythnos Dydd Gŵyl Dewi ym mis Mawrth. Bydd y ddinas yn llawn cyffro a cherddoriaeth jazz o 13 i 17 Mehefin, pan fydd yr Ŵyl Jazz yn dychwelyd. Bydd Sioe Awyr Cymru yn gwibio dros Fae Abertawe ar 6-7 Gorffennaf a gallwch nofio, rhedeg a beicio yn nigwyddiad Ironman 70.3 Abertawe yn y ddinas ar 14 Gorffennaf! Cofiwch eich esgidiau dawnsio pan fydd James Arthur ym Mharc Singleton ar 18 Gorffennaf.

Mae llawer mwy ar y gorwel hefyd, felly cadwch lygad am ragor o gyhoeddiadau.

Lles yn ystod y Gaeaf

Wrth i ni symud i’r flwyddyn newydd, dyma’r amser gorau i groesawu dechrau newydd a chymryd rhai camau cadarnhaol i wella’ch lles.

Mae Bae Abertawe’n llawn harddwch naturiol anhygoel ac mae ganddo lawer o atyniadau cost isel neu am ddim.

Os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth, cymerwch gip ar rai o’r syniadau isod:

Mwynhau’r awyr agored

Mae gan Fae Abertawe lu o draethau prydferth, y mae gan dri ohonynt statws y Faner Las, bryniau tonnog a 38 milltir o lwybrau arfordirol hyfryd.

Ymwelwch ag un o’n lleoliadau diwylliannol

Mae gan Abertawe amrywiaeth o leoliadau diwylliannol lle ceir mynediad am ddim, gan gynnwys 17 llyfrgell, sy’n cynnig diwrnod allan gwych i’r holl deulu beth bynnag yw’r tywydd.

Ar dy feic! 

Mae Abertawe’n ddinas sy’n croesawu beiciau a chanddi ddigon o lwybrau beicio lle nad oes traffig ac mae’n rhan o’r Lôn Geltaidd a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Dewch o hyd i ragor o ysbrydoliaeth

Croeso

Yn galw ar bobl sy’n dwlu ar fwyd a phethau Cymreig!
Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur ar gyfer digwyddiad Croeso eleni.

Mae’r ŵyl, sy’n dathlu popeth Cymreig, yn digwydd yn St David’s Place (ger hen safle Iceland) o ddydd Gwener, 1 Mawrth i ddydd Sul, 3 Mawrth. 

Mae’r cogyddion a gadarnhawyd eleni’n cynnwys y cogyddion ‘Michelin’ Nathan Davies o SY23, Hywel Griffith o Beach House, Jonathan Woolway o The Shed a John Taylor o The Welsh House.

Yn ogystal ag arddangosiadau coginio, bydd Croeso hefyd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi, gweithgareddau i blant ac adloniant ar y stryd.

Cadwch lygad ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol am yr holl gyhoeddiadau diweddaraf – mae llawer o newyddion cyffrous ar ddod.

Rhagor o wybodaeth

Cyfres Para Treiathlon y Byd 2024 yn dychwelyd

Bydd Cyfres Para Treiathlon y Byd 2024 yn dychwelyd am y trydydd tro i Fae Abertawe ddydd Sadwrn 22 Mehefin eleni.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys y paradreiathletwyr gorau o bedwar ban byd yn cystadlu i ennill pwyntiau cymhwyso angenrheidiol ar gyfer Gemau Paralympaidd 2024 o flaen torf gartref.

Bydd hefyd yn darparu cyfle i bobl anabl o bob lefel cystadlu ymgymryd â gweithgarwch corfforol. Byddant yn cael y cyfle i brofi’r un cwrs â’r rasys elît, lle bydd paradreiathletwyr o Brydain yn cystadlu, yn ogystal â chystadleuwyr sy’n newydd i’r gamp.

Mae cynlluniau hefyd ar gyfer digwyddiad i blant a phobl ifanc, er mwyn eu cyflwyno i’r gamp a rhoi’r cyfle iddynt fod yn rhan o’r digwyddiad ysbrydoledig hwn.

Darllen mwy

Neuadd Brangwyn

Gallwch gael eich swyno gan y synau syfrdanol yn Neuadd Brangwyn yn 2024.

Eleni, byddwn yn croesawu arweinyddion a chyfansoddwyr CGG y BBC o fis Ionawr i fis Mehefin, gan ddechrau brynhawn dydd Sadwrn gyda pherfformiad gwych ‘Jaime Martin Conducts’. Bydd cwmni arobryn Daniel Martinez Flamenco Company yn cyflwyno Andalucia – Flamenco ar 23 Chwefror a bydd y côr cyfoes Valley Rock Voices yn ymuno â ni ym mis Mehefin, a bydd llawer o bethau eraill i ddisgwyl ymlaen atynt yn 2024.

Cymerwch gip ar ein digwyddiadau eleni

Tîm Chwaraeon ac Iechyd

Disgwylir iddi fod yn flwyddyn gyffrous arall o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol, gan gynnwys y Gemau Olympaidd, yr Ewros, y Gemau Paralympaidd, Tour de France a Wimbledon, sy’n dangos goreuon y byd chwaraeon. Gadewch iddynt eich ysbrydoli a byddwch yn actif gyda’n tîm Chwaraeon ac Iechyd y mis Ionawr hwn. Mae digon o weithgareddau cyffrous wedi’u cynllunio y mis hwn, felly os gallai pêl rodli, zumba neu pilates eich temtio, rhowch gynnig arnynt.

Cymerwch gip ar ein holl weithgareddau chwaraeon

Men Up y BBC yn Abertawe

Mae Men Up y BBC, a ddarlledwyd yn ddiweddar ar BBC One, yn cyfuno drama a hiwmor i adrodd hanes emosiynol pum Cymro arferol sy’n dechrau ar daith arbennig pan maent yn cymryd rhan mewn profion ar gyfer cyffur newydd, a elwir yn hwyrach yn Viagra.

Mae sêr y cast sy’n llawn doniau Cymreig rhagorol yn cynnwys Iwan Rheon (Game of Thrones), Aneurin Barnard (Dunkirk), Steffan Rhodri (House of the Dragon) a Mark Lewis Jones (Outlander), ond rydyn ni’n credu bod lleoliadau anhygoel Abertawe’n chwarae rhan bwysig wrth adrodd yr hanes anghredadwy hwn.

Cymerwch gip ar ein blog sy’n rhestru’r lleoliadau yn Abertawe sydd yn y ffilm er mwyn i chi weld a wnaethoch chi weld pob un ohonynt.

Darllenwch ein blog