fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Mae ffilm newydd y BBC sef Men Up, a ddarlledwyd yn ddiweddar ar BBC One, yn archwilio bywydau pum Cymro cyffredin a gychwynnodd ar daith anarferol pan gymeron nhw ran mewn treial ar gyfer cyffur newydd a fyddai’n dod yn ddiweddarach yn Viagra.

Y stori

Darganfuwyd galluoedd y cyffur i gyrraedd y rhannau na allai cyffuriau eraill eu cyrraedd pan roedd Pfizer yn profi Sildenafil fel triniaeth ar gyfer pwysau gwaed uchel ac angina ym Merthyr Tudful, gyda chyn-lowyr a gweithwyr dur a oedd yn cymryd rhan yn y treial yn teimlo braidd yn swil wrth adrodd eu bod yn cael mwy o godiadau a rhai caletach nag arfer.

Penderfynodd Pfizer brofi’r cyffur gyda chleifion a oedd yn profi diffyg ymgodol gan arwain at dreial clinigol yn Ysbyty Treforys yn Abertawe ym 1994, a oedd yn cynnwys dynion â diabetes a chlefyd y galon, oherwydd gall sgîl effeithiau’r cyflyrau hyn gynnwys diffyg ymgodol.

Mae Men Up yn cymysgu drama â hiwmor i adrodd stori hyfryd am grŵp o ddynion diymhongar yn delio â her diffyg ymgodol a’i heffaith ar eu perthnasoedd, gan eu harwain i wynebu eu problem ac ambell wirionedd anodd er mwyn adennill eu bywydau.

Yn arwain y cast o ddoniau neilltuol

Yn arwain y cast o ddoniau neilltuol o Gymru mae Iwan Rheon (Wolf, Game of Thrones, Misfits), Aneurin Barnard (Dunkirk, The Pact), Phaldut Sharma (Sherwood, Romantic Getaway), Paul Rhys (A Discovery of Witches, Rellick), Steffan Rhodri (House of the Dragon, Temple), Mark Lewis Jones (Gangs of London, The Phantom of the Open), a Joanna Page (Gavin & Stacey, Dolittle).

Er ein bod efallai’n rhagfarnllyd, credwn fod lleoliadau trawiadol Abertawe a rhanbarth ehangach de Cymru yn chwarae rôl sydd yr un mor bwysig wrth adrodd y stori hynod hon a ysbrydolwyd gan ddigwyddiadau gwir.

Lleoliadau trawiadol, ond peidiwch â chymryd ein gair ni yn unig…

“Dwi wedi ffilmio llawer o feicio yn y Mwmbwls sydd wedi bod yn braf, mae gwaeth lleoedd! Mae’n wych – dwi wrth fy modd yn gweithio yng Nghymru.” Iwan Rheon

“Mae’n wych ffilmio yn y lleoliadau hyn…Mae’n ychwanegu elfen arall at y stori hon, ac mae’r stori gyfan wedi’i gwreiddio yn ei chymuned a’r math o bobl ydyn nhw; mae fel cymeriad arall.” Alex Roach

Dyma rai o’r lleoliadau yn Abertawe sy’n ymddangos yn y ffilm

Prom Abertawe – mae’r golygfeydd o Meurig (Iwan Rheon) yn beicio ar hyd y prom drwy’r holl ffilm yn hyfryd.

Gloucester Place, y Mwmbwls – y lleoliad ar gyfer cartref Meurig. Cadwch lygad am y dawnswyr yn y stryd!

Bae Langland – Mae cytiau traeth eiconig Langland yn darparu cefndir trawiadol i’r sgwrs ddidwyll rhwng Tommy (Paul Rhys) a’i bartner Rhys (Nathan Sussex).

Pantycelyn Road, Townhill – Mae Meurig yn sgwrsio â’i ffrind Leigh (Dyfan Dwyfor) a hyd yn oed ar ddiwrnod glawog, mae ein tref hyll, hardd…..wrth ymyl traeth bwaog hir ac ysblennydd yn eitha’ arbennig.

Neuadd y Ddinas, Abertawe – mae wedi bod yn llawer o bethau ar y sgrin, gan gynnwys Whitehall, ond dyw hi erioed wedi bod yn orsaf heddlu, tan nawr.

Pier y Mwmbwls – lleoliad ar gyfer golygfeydd olaf y ffilm pan mae’r pedwar dyn yn myfyrio ar y daith y maent wedi bod arni gyda’i gilydd.

Gwylio Men Up

Mae Men Up ar gael i’w gwylio yn y DU ar hyn o bryd ar BBC iPlayer.

Darparodd Tîm Rheoli Cyrchfannau a Marchnata Cyngor Abertawe gyngor a chymorth i’r tîm cynhyrchu, gan hwyluso’r ffilmio yn y lleoliadau yn y ddinas.

I gael rhagor o wybodaeth am ffilmio yn Abertawe, ewch i www.abertawe.gov.uk/ffilm.