fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | March 05, 2020

A wnaethoch chi ddyweddïo?

Dyma restr o 10 o’r lleoliadau mwyaf poblogaidd ym Mae Abertawe lle gallwch ddweud y geiriau holl bwysig… Gallwch ddewis rhwng lleoliadau modern yng nghanol y ddinas, lleoliadau rhamantus yng nghefn gwlad a lleoliadau arfordirol hyfryd â golygfeydd gwych o’r môr!

  1. Parc-Le-Breos

Mae Tŷ Parc-Le-Breos, sef plasty cynnes a chroesawgar â thanau agored ym Mhenrhyn Gŵyr, yn cynnig y lleoliad perffaith ar gyfer diwrnod eich priodas. Mae’r tŷ ei hun yn berffaith ar gyfer y rheini sy’n chwilio am leoliad mwy personol ar gyfer hyd at 50 o westeion (a gallant eistedd yn yr ystafell fwyta) a gellir croesawu 50 o westeion ychwanegol yn hwyrach yn y dydd. (Os ydych chi’n chwilio am rywbeth ychydig yn fwy mae digonedd o dir ar gyfer priodasau pebyll mawrion.)

 

 

 

 

2.  Gwesty Bae Oxwich

 

Mae’r lleoliad rhagorol hwn, a enillodd wobr ‘Cymeradwyaeth Uchel’ yn y categori ‘Lleoliad Priodas’ yng Ngwobrau Twristiaeth Bae Abertawe 2019, 10 metr yn unig o’r traeth. Mae ganddo yr Ystafell Chestnut unigryw sy’n berffaith ar gyfer eich seremoni; a lleoliad derbyn sy’n cynnig golygfeydd syfrdanol. Dewch i ddathlu mewn steil mewn pabell fawr briodas gyda golygfeydd gwych o Fae Oxwich hardd.

 

3.  Gwesty Morgans 

 

Lleoliad priodas moethus yng nghanol dinas Abertawe yw Gwesty Morgans. Gydag ystafelloedd rhagorol a lleoliad rhestredig Gradd II* – dyma’r lleoliad perffaith ar gyfer dathlu eich diwrnod arbennig mewn steil.

 

 

 

 

4. Gwesty’r King Arthur

 

Enwyd Gwesty’r King Arthur fel y ‘Lleoliad Priodas Gorau yn Abertawe’ yng ngwobrau Swansea Life 2018, ac mae’r lleoliad priodasau arobryn a’r ystafell achlysuron, Avalon, wedi cynnal priodasau ers 2003. Mae nenfwd uchel a gefnogir gan ffrâm dderw Ffrengig wedi’i dadorchuddio, ac mae gan y llawr derw sgleiniog yng nghanol yr ystafell ymyl o lechi Cymreig. Mae’r ffenestri bwaog trawiadol yn cynnig olygfa dros y gerddi tirluniedig cyfagos. Lleoliad gwledig hamddenol ar gyfer eich diwrnod arbennig.

5. Gwesty’r Village, Abertawe

 

Gallwch gynnal eich gwasanaeth yn ei diroedd hyfryd neu yn ei ystafell wledda fawr sy’n gallu dal hyd at 400 o westeion.

 

 

 

 

6. Delta Hotels by Marriott Swansea

 

Mae Delta Hotels by Marriott yn Swansea cynnig lleoliad perffaith ar gyfer eich diwrnod perffaith, gyda gwasanaethau bach, personol a dathliadau mawr i hyd at 200 o westeion.

7.  Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

 

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn lleoliad priodas modern a hygyrch. Gallwch ddefnyddio’r balconi a’r cyntedd sydd â golygfeydd o’r dociau hanesyddol, y neuadd fawr fodern, glân, neu gallwch ddathlu ymysg arddangosfeydd unigryw’r amgueddfa.

 

 

 

8.  Oldwalls

 

Nestled within 50 acres of beautiful Welsh countryside, Oldwalls is the flagship multi award-winning wedding venue by the Oldwalls Collection, the renowned luxury wedding venue specialists.

 

 

9.  Neuadd Brangwyn

 

Neuadd Brangwyn yw’r lleoliad perffaith i gynnal eich priodas mewn amgylchedd unigryw ac atmosfferig, gyda dewis o ystafelloedd sy’n cynnig seremonïau personol neu fawr gyda lle i rhwng 20 a 500 o westeion.

 

 

 

10.  Canolfan Fferm Clun

 

Ewch i Fferm Clun am briodas wahanol iawn! Mae’r holl becynnau’n cynnwys llogi’r fferm gyfan, gan gynnwys y 7 bwthyn hunanarlwyo ar y safle sydd â golygfeydd o fae hyfryd Abertawe. A beth am dreulio’r diwrnod canlynol yn cael hwyl yn y mwd yng Nghwm Her, sef cwrs ymosod mwyaf mwdlyd y byd (yn ôl pob tebyg)! Pa ffordd well o ddechrau bywyd priodasol!!

 

 

Am ddewis! Mae’r lleoliadau priodas uchod yn cynnwys gwestai mawr yng nghanol y ddinas, lleoliadau llai yng nghefn gwlad ac ar lan y môr, fferm, amgueddfa a 2 adeilad rhestredig Gradd II! Rydym yn siŵr y byddwch yn dod o hyd i’r lleoliad perffaith ar gyfer eich diwrnod arbennig yma ym Mae Abertawe.

 

Cliciwch yma am restr lawn o’r lleoliadau trwyddedig ym Mae Abertawe.