Mae traeth Bae Pobbles yn fae poblogaidd wedi’i amgylchynu gan glogwyni – cerddwch lan i’r top a mwynhewch y golygfeydd godidog (mae’n wych ar gyfer y rheini sy’n dwlu ar antur!).
Gellir ei gyrraedd ar gludiant cyhoeddus (SA3 2HB).
Does dim cyfleusterau parcio oherwydd y lleoliad. Gallwch gerdded i draeth Pobbles o draeth Bae y Tri Chlogwyn ar adeg trai neu cerddwch i lawr o’r clogwyni.
Maes Parcio: Na.
Toiledau: Na.
Lluniaeth: Na.
Cludiant cyhoeddus: Oes. Mae cludiant cyhoeddus ar gael ychydig bellter i ffwrdd (tua 400m). Gall y pellter rhwng y safle bws a’r traeth gynnwys tir anodd neu arw.
Cŵn: Caniateir cŵn ar y traeth drwy gydol y flwyddyn.
Mynediad i gadeiriau olwyn: Na.
Achubwyr Bywydau: Na.
Does dim achubwyr bywydau ac mae cerrynt terfol cryf felly byddwch yn ofalus. Mae’r darn rhwng Pobbles a Bae y Tri Chlogwyn ond yn hygyrch pan fydd y llanw ar drai.