fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Antur Forol Oxwich: Dewch i reidio, bwyta a phadlo bwrdd ar eich traed!

Share

Antur Forol Oxwich: Dewch i reidio, bwyta a phadlo bwrdd ar eich traed!

(arhosiad 1 noson)

 

  • Gallwch reidio dros y môr pefriog ar daith gydaGower Coast Adventures o Fae Oxwich i Ben Pyrod. Gallwch weld tir sydd wedi’i lunio gan y môr a’r bywyd gwyllt sy’n byw ynddo ac yn dibynnu arno.
  • Dewch i flasu cinio bwyd y môr yn y Beach House, Oxwich. Wedi’i osod mewn lleoliad arfordirol hardd ym Mae Oxwich, mae’r Beach House yn defnyddio cynnyrch lleol gwych, gan gynnwys gwymon Bae Oxwich.
  • Rhowch gynnig ar sefyll ar y môr gyda gwers padlo bwrdd ar eich traed (SUP) gan Chwaraeon Dŵr Oxwich, ym Mae Oxwich. Cofiwch ddod â’ch hen drenyrs, dillad cynnes a thywel ar gyfer ar ôl eich sesiwn.
  • Ewch am dro ym Mae Oxwich. Gallwch lawrlwytho gwybodaeth am lwybr cerdded Trwyn Oxwich. Mae’r daith fyrrach yn 3¼ milltir (5km) o hyd ac mae’r daith hirach drwy Faes Oxwich tua 4½ milltir (7km) o hyd.
  • Dewch i ymweld â Chastell Oxwich, tŷ Tuduraidd crand wedi’i adeiladu ar ffurf iard sydd wedi goruchwylio pentref Oxwich ers cyfnod y Tuduriaid.

 

Rhannwch eich profiadau a’ch lluniau o’ch gwyliau â ni, dilynwch ni ar Facebook a Twitter a chofiwch ddefnyddio’r hashnod: #HwylBaeAbertawe. Mwynhewch!