fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Antur Ddiwylliannol yn Abertawe

Share

Antur Ddiwylliannol yn Abertawe

 

  • Cadwch eich lle am arhosiad dros nos yng Ngwesty Morgans, sef gwesty bwtîg moethus yng nghanol dinas Abertawe mewn adeilad rhestredig Gradd 2 a fu unwaith yn gartref i’r awdurdod porthladd.
  • Ewch i Ganolfan Dylan Thomas i archwilio’r arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’. Byddwch yn clywed rhai o leisiau mwyaf adnabyddus y byd yn darllen llinellau o waith enwocaf Dylan Thomas; mae lleisiau’r Tywysog Charles a Richard Burton yn eu plith. Hefyd mae arddangosiadau rhyngweithiol newydd ar sgrîn gyffwrdd sy’n canolbwyntio ar dechneg Dylan, ac mae cyfle i chi edrych ar y nodiaduron a ysgrifennodd yn Abertawe rhwng 15 a 19 oed, a dysgu mwy am yr amgylchiadau ynghylch ei farwolaeth yn Ninas Efrog Newydd ym 1953.
  • Mwynhewch ginio yn The Swigg (wedi’i enwi ar ôl bwi ym Mae Abertawe – South West Inner Green Grounds), wedi’i leoli yn yr Ardal Forol mewn warws brics coch rhestredig Gradd II sy’n rhan o etifeddiaeth forol Abertawe. Ar y fwydlen, mae coes oen morfeydd heli wedi’i rhostio, cocos, bara lawr a chennin, caws pob â blas cwrw Gower Gold a saws brown cartref.
  • DarganfyddwchOriel Gelf Glynn Vivian . Abertawe. Wedi’i leoli yng nghanol y ddinas, mae Oriel Gelf Glynn Vivian (a sefydlwyd ym 1911) wedi datblygu casgliad sylweddol sy’n cynnwys sbectrwm eang o’r celfyddydau gweledol, o’r hen feistri i artistiaid cyfoes, ynghyd â chasgliad rhyngwladol o borslen a tsieni Abertawe. Mae’r rhaglen arddangosfeydd ddeinamig yn rhoi llwyfan i artistiaid yng Nghymru gyflwyno eu gwaith mewn cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r oriel hefyd yn cynnal arddangosfeydd teithiol cenedlaethol a rhyngwladol o artistiaid cyfoes pwysig yn ogystal â sioeau hanes celf.
  • Dewch i Lawnt yr Amgueddfa i ddarganfod yr ymagwedd ryngweithiol ac uwch-dechnoleg at hanes Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ac yna teithiwch yn ôl mewn amser i Amgueddfa Abertawe. Mewn cyferbyniad â phrofiad uwch-dechnoleg Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Abertawe yw’r amgueddfa hynaf yng Nghymru.
  • Mwynhewch eich pryd gyda’r hwyr yn y Grape and Olive. Gallwch fwyta ar ben adeilad uchaf Cymru sydd â golygfeydd 360 gradd dros ehangder pum milltir Bae Abertawe tuag at y Mwmbwls.

 
Rhannwch eich profiadau a’ch lluniau o’ch gwyliau â ni, dilynwch ni ar Facebook a Twitter a chofiwch ddefnyddio’r hashnod: #HwylBaeAbertawe. Mwynhewch!