fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi
BLOG | February 14, 2020

Ar ôl blwyddyn wych o ddigwyddiadau ar gyfer Abertawe yn 2019, mae 2020 yn argoeli’n dda ac mae’r hwyl yn parhau ym mis Chwefror!

Peidiwch â cholli tîm Cymru’n fyw ar y Sgrîn Fawr, yna beth am fynd ar daith feicio ar hyd y bae ar un o feiciau Santander Cycle, a chael hwyl gyda’r teulu yn ystod hanner tymor mis Chwefror!

Darllenwch ymlaen i ganfod pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill yn Abertawe y mis hwn, gan gynnwys dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, a llawer mwy!

Archwilio’r bae ar feic yr hanner tymor hwn gyda Santander Cycles

Ydych chi am i’r holl deulu fynd am dro ar y beic ar hyd glan y môr yr hanner tymor hwn ond yn ansicr am sut i gael yr holl feiciau lawr i’r promenâd?

Beth am adael beiciau’r oedolion yn y tŷ a llogi beiciau Santander Cycles yn eu lle? Mae beiciau Santander Cycles yn hawdd eu defnyddio! Gallwch gasglu a gollwng beic o unrhyw un o’r chwe gorsaf sydd ar hyd Bae Abertawe (gallwch weld faint o feiciau sydd ar gael ym mhob gorsaf trwy ddefnyddio’r ap neu edrych ar y wefan).

Gallwch logi hyd at bedwar beic ar y tro a bydd taith fer yn costio cyn lleied â £1 fesul beic. Am £10 yn unig fesul beic, gallwch eu defnyddio am ddiwrnod cyfan a gallwch ddefnyddio’r cyfleuster cloi dros dro i stopio i weld y golygfeydd neu i fwynhau cinio hamddenol ar hyd y ffordd.

Nid yw’r beiciau’n addas i blant ifanc felly bydd angen i’ch plant bach ddefnyddio eu beiciau eu hunain.

Pencampwriaeth y 6 Gwlad ar y Sgrîn Fawr

Gallwch wylio holl gyffro ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar y Sgrîn Fawr yn Sgwâr y Castell!

  • Cymru v Ffrainc – Dydd Sadwrn 22 Chwefror, 16:45
  • Lloegr v Cymru – Dydd Sadwrn 7 Mawrth, 16:45
  • Cymru v Yr Alban – Dydd Sadwrn 14 Mawrth, 14:15

Nawr, does dim esgus gennych… Gwlad! GWLAD!

Hwyl hanner tymor yng Nghanolfan Dylan Thomas

Mae wythnos lawn o weithgareddau ar y gweill yng Nghanolfan Dylan Thomas i gadw dwylo bach yn brysur! Bydd cyfle i greu mygydau anifeiliaid 3D a ysbrydolwyd gan rai o’r anifeiliaid a geir yng ngwaith Dylan Thomas yn y Gweithdy i’r Teulu ar ‘Anifeiliaid Dylan’ ddydd Mawrth 18 Chwefror, galwch heibio rhwng 1pm a 4pm.

Yn galw ar awduron ifanc y dyfodol – ymunwch â thîm Canolfan Dylan Thomas ynghyd â’r awdur Emily Vanderploeg ddydd Mercher 19 Chwefror ar gyfer Gweithdy Ysgrifennu Creadigol llawn hwyl gyda gweithgareddau i bob oed; 10am – 12pm yn Llyfrgell Pen-lan neu 2pm – 4pm yn Llyfrgell Tre-gŵyr.

Bydd Man Dysgu cyfeillgar y Ganolfan sy’n addas i deuluoedd hefyd ar agor ar gyfer Anifeiliaid Dylan: Gweithgareddau Hunanarweiniedig trwy gydol hanner tymor, gan gynnwys ysgrifennu creadigol, creu comics bach, pypedau, gemau, crefftau a gwisgo lan, pob un wedi’i ysbrydoli gan yr anifeiliaid a welir yng ngwaith Dylan Thomas – gweler y wefan am ddyddiadau ac amseroedd galw heibio.

Mae’r holl weithgareddau am ddim (awgrymwn gyfraniad o £3).

ParkLives

ParkLives, a gyflwynir i chi gan ein Tîm Chwaraeon ac Iechyd, yw’r ffordd hawdd ac am ddim o gael y gorau o’ch parc lleol a’r awyr agored. Mae’n dychwelyd am hanner tymor arall llawn digwyddiadau a ffitrwydd am ddim i bawb!

Mae’n hawdd cymryd rhan a chynhelir yr holl weithgareddau mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol. Felly, p’un a yw’n mynyddfyrddio neu’n weithgareddau aml-gamp, pêl-droed neu ioga, mae rhywbeth gan ParkLives i gadw pawb yn heini wrth gael llawer o hwyl.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth.

Cofrestrwch i gymryd rhan yn ras 10k Bae Abertawe Admiral 2020 heddiw!

Mae eleni’n nodi pen-blwydd ras eiconig 10k Bae Abertawe’n 40 oed, a gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer y ras 10k ynghyd â’r rasys iau 3k nawr!

Byddwch yn barod i rasio ar hyd y cwrs hyfryd hwn, sy’n berffaith ar gyfer dechreuwyr a rhedwyr profiadol, a chofiwch gofrestru cyn 29 Chwefror i fanteisio ar brisiau’r cynnig cynnar.

Felly gwisgwch eich esgidiau rhedeg a chofrestrwch ar gyfer un o rasys 10K mwyaf golygfaol y DU – mae ‘na reswm ei fod wedi cael ei enwebu fel y ras 10k gorau yng Nghymru ddwy flynedd yn olynol yn y gwobrau rhedeg!

Pen-cogyddion enwog yn cyflwyno blasau anhygoel ym Mae Abertawe

Mae dau ben-cogydd anhygoel ar eu ffordd i Ŵyl Bwyd a Diod Croeso ar ddiwedd y mis hwn. Gŵyl ddeuddydd sy’n dathlu pob peth Cymreig yw digwyddiad Croeso. Fe’i cynhelir yng nghanol dinas Abertawe ddydd Sadwrn 29 Chwefror a dydd Sul 1 Mawrth 2020, rhwng 11am a 4pm.

Matt Pritchard, o’r rhaglen deledu Dirty Vegan, fydd y prif pen-cogydd ar y dydd Sadwrn, a fydd yn llawn arddangosiadau coginio. Bydd dyn blaen a chyn-seren MTV Dirty Sanchez, sydd bellach yn ben-cogydd feganaidd ac yn athletwr o fri yn rhannu ei hoffter at fwyd anhygoel a wnaed o blanhigion sy’n blasu’n “BANGING!”

Ddydd Sul byddwn yn croesawu Jean-Christophe Novelli, sydd wedi ennill sawl seren Michelin, i gegin Croeso. Bydd Jean-Christophe, hoff ben-cogydd Ffrengig y wlad, yn gwneud defnydd da o gynnyrch gorau Cymru ac yn rhannu cyfrinachau’r grefft.

Bydd y digwyddiad deuddydd am ddim yn cynnwys llu o ben-cogyddion lleol a chogyddion cartref enwog a fydd yn arddangos ryseitiau gwych i’ch ysbrydoli i fynd ati i goginio. Bydd Stryd Rhydychen yn llawn o gynhyrchwyr bwyd a diod o bob rhan o Gymru, a chewch gyfle i fwynhau adloniant gwych yn Sgwâr y Castell.