Gyda 3 ffordd hawdd o logi, mae Santander Cycles yn ffordd wych o fynd allan am dro ar y beic gyda’r plant yr hanner tymor hwn.
Gallwch gasglu a gollwng beic Santander Cycles o unrhyw un o’r 6 gorsaf sydd ar hyd Bae Abertawe:
Gyda’r gallu i dalu wrth i chi fynd sy’n costio cyn lleied â £1, gallwch fynd ar daith ar hyd glan môr gyda’ch plant bach ar unrhyw adeg yr hanner tymor hwn. Mae’r cyfleuster cloi dros dro‘n berffaith ar gyfer y rheini sydd am dreulio’r diwrnod yn mynd o le i le ar y beic. Gyda beiciau Santander Cycles, gallwch feicio’r holl ffordd o’r Mwmbwls i Gampws y Bae’r Brifysgol ac yn ôl a stopio i weld y golygfeydd ar hyd y ffordd am £10 y person ar y mwyaf!
Nid yw’r beiciau’n addas i blant ifanc felly bydd angen i’ch plant bach gael eu beiciau eu hunain.*
* Ni ddylai beiciau Santander Cycles gael eu defnyddio gan blant dan 18 oed (oni bai eu bod yng nghwmni oedolyn).
I gael rhagor o wybodaeth am Santander Cycles ac i gofrestru ar gyfer y cynllun, ewch i www.santandercycles.co.uk/swansea.