fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Gŵyl ddeuddydd sy’n dathlu pob peth Cymreig yw digwyddiad Croeso. Fe’i cynhelir yng nghanol dinas Abertawe ddydd Sadwrn 29 Chwefror a dydd Sul 1 Mawrth 2020, 11am – 4pm.

Bydd digwyddiad eleni’n cynnwys diwylliant Cymreig lleol o’r radd flaenaf, gan gynnwys:

  • Bwyd a diod
  • Arddangosiadau coginio
  • Cerddoriaeth fyw
  • Barddoniaeth
  • Adloniant ar y stryd
  • Gweithdai
  • Celf a chrefft
  • Gorymdaith Dewi Sant
  • Gweithgareddau i blant
  • Ffenestr Siop/Stondin Marchnad wedi’i Haddurno Orau ar Thema Gymreig

Arddangosiadau Coginio

Dydd Sadwrn 29 Chwefror: Stryd Portland

  • 11am: Nerys Howell, Ymgynghoriaeth Bwyd Howel ac Awdur Cymru ar Blât
  • 12pm: Sian Day a Rob Bowen, a gyrhaeddodd rownd cyn-derfynol My Kitchen Rules ar Channel 4
  • 1pm: The Dirty Vegan, Matt Pritchard
  • 2pm: Michelle Evans-Fecci, cystadleuydd ar The Great British Bake Off 2019.
  • 3pm: Imran Nathoo, a gyrhaeddodd rownd gogynderfynol Masterchef 2019.

Dydd Sadwrn 29 Chwefror: Marchnad Abertawe

  • 10:15am: Colin Lewis, The Cliff, Southgate
  • 11:15am: Helen Wilson, Pen-cogydd bwyd a wnaed o blanhigion
  • 12:15pm: Nerys Howell, Ymgynghoriaeth Bwyd Howel ac Awdur Cymru ar Blât
  • 1:15pm: Sian Day a Rob Bowen, a gyrhaeddodd rownd cyn-derfynol My Kitchen Rules ar Channel 4
  • 2pm: The Dirty Vegan, Matt Pritchard – Sesiwn Holi ac Ateb a Llofnodi Llyfrau
  • 3pm: Ragsy

Dydd Sul 1 Mawrth: Stryd Portland

  • 11am: Jack Brown, Gwesty’r Marriott
  • 12pm: Jean-Christophe Novelli
  • 1pm: Katie Davies a gyrhaeddodd rownd gogynderfynol Best Home Cook 2018 ar y BBC
  • 2pm: Jean-Christophe Novelli
  • 3pm: Colin Lewis, The Cliff, Southgate

Adloniant Byw – Llwyfan Sgwâr y Castell

Cyflwynir gan Helens Enser Morgan.

Dydd Sadwrn 29 Chwefror

  • 11.30am: Ysgol Gynradd Pennard– Twmpath Dawnsio Gwerin Cymreig – Wedi’i ganslo.
  • 12pm: Jermin Productions
  • 12.30pm: Côr Tŷ Tawe
  • 1pm: Ragsy
  • 1.30pm: Theatr Mellin
  • 2pm; Jack Perrett
  • 2.30pm: Welsh Whisperer
  • 3pm: Eady Crawford.

Dydd Sul 1 Mawrth

  • 11am: ‘Cyw gydag Elin a Huw’ o S4C
  • 11.30am: Theatr Mellin
  • 12pm: Tomos Newman
  • 12.30pm: Kayleigh Morgan
  • 1pm: Kizzy Crawford
  • 1.30pm: Danceerama
  • 2pm: ‘Cyw gydag Elin a Huw’ o S4C
  • 2.30pm: Kizzy Crawford
  • 3.15pm: Yr Elvis Cymreig – Wynne Roberts BEM

Gweithgareddau i deuluoedd a diddanwyr a fydd yn crwydro o gwmpas y lle – yn Sgwâr y Castell a’r cyffiniau

Dydd Sadwrn a dydd Sul

  • 11am – 4pm: Pabell Fawr Cwtsh – llawer o weithgareddau difyr wedi’u cyflwyno’n Gymraeg
  • 11am – 4pm: Paentio wynebau am ddim
  • 11am – 1pm: Annibendod – Gwneud eich adenydd draig fach eich hun
  • 11am – 12pm: Gweithdy Celf Wal Graffiti Eiconau o Gymru
  • 11.30pm – 12pm: Cerddwyr Stiltiau
  • 12pm – 3pm: Sesiynau ‘Rhoi Cynnig Arni’ Didi Rugby
  • 1pm – 1.30pm: Cerddwyr Stiltiau
  • 11.30am – 2.30pm: Gweithdy Celf Wal Graffiti Eiconau o Gymru
  • 2pm – 4pm: Annibendod – Gweithdy creu eich dafad a’ch draig eich hun o glai
  • 3pm – 3.30pm: Gorymdaith Dewi Sant (gan gynnwys Draig y Theatr Byd Bychan, Samba Blocco Vale a Theatr Mellin) – Mae dydd Sadwrn wedi’i ganslo.

Nightworks

Digon i’w fwynhau…

Ewch i Sgwâr y Castell i glywed sŵn hyfryd cerddoriaeth Gymreig cyn symud ymlaen at Stryd Portland a Stryd Rhydychen, lle gallwch flasu bwydydd a diodydd Cymreig, a gweld nwyddau gwych a wnaed â llaw. Peidiwch â cholli’r arddangosiadau coginio a’r gweithdai crefftau.

Trochwch eich hun yn yr iaith Gymraeg ym Mhabell Cwtsh. Gallwch fwynhau digon o ddiwylliant Cymreig, gan gynnwys cerddoriaeth, barddoniaeth ac adloniant byw. Dywedwch ‘Shwmae!’ i bobl gyfeillgar Menter Iaith Abertawe. Byddant yn estyn croeso cynnes Cymreig i bawb, ac yn cynnig digon o help i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg (neu’n ystyried dysgu).

Ffenestr Siop/Stondin Marchnad wedi’i Haddurno Orau ar Thema Gymreig

Dyma’ch cyfle i ennill gwerth mis o hysbysebu am ddim ar gyfer eich busnes ar Sgrîn Fawr Abertawe yn Sgwâr y Castell!

 Helpwch ni i roi croeso Cymreig mawr i bawb sy’n dod i Ŵyl Croeso i’w chynnal yng nghanol dinas Abertawe a Marchnad Abertawe* Ddydd Sadwrn 29 Chwefror ac 1 Mawrth 2020. Cymerwch ran yng nghystadleuaeth “Ffenestr Siop/Stondin Marchnad wedi’i Haddurno Orau ar Thema Gymreig” er mwyn cael cyfle i ennill y wobr hon sy’n werth dros £500!

  • Mae’r gystadleuaeth yn dechrau am 11am ddydd Sadwrn 29 Chwefror ac yn dod i ben am 4pm ddydd Sul 1 Mawrth 2020. Er mwyn cael cyfle i ennill, lanlwythwch lun o ffenestr eich siop neu’ch stondin marchnad i events@abertawe.gov.uk rhwng 11am ddydd Sadwrn 29 Chwefror a 5pm ddydd Llun 2 Mawrth. Ni dderbynnir cynigion hwyr.
  • Y wobr yw i’ch hysbyseb busnes gael ei arddangos ar y Sgrîn Fawr yn Sgwâr y Castell dros gyfnod o 5 wythnos (celfwaith i’w ddarparu gan y cystadleuydd).
  • Mae’n rhaid i’r sawl sydd am gystadlu gynnwys enw’r siop/stondin, ynghyd ag enw, cyfeiriad, e-bost a rhif ffôn yn yr un e-bost â’r llun.
  • *cynhelir y gweithgareddau ym Marchnad Abertawe ddydd Sadwrn 29 Chwefror yn unig

Am amodau a thelerau llawn, cliciwch yma A a Th

Cefnogaeth gan…

Arian a dderbyniwyd gan Gynllun Grant Twf Busnes Strategol Llywodraeth Cymru.

 

 

Academi Hywel Teifi

Mae Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer astudio’r Gymraeg a’i llenyddiaeth. Mae’n hyrwyddo addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y pynciau sy’n cael eu haddysgu yn y Brifysgol ac mae’n gweithio i sicrhau lle amlycach i’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd y brifysgol ac yn rhanbarth de-orllewin Cymru. Mae’r Academi yn gartref i ‘Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe’, cangen Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chanolfan Gymraeg Cwm Tawe, Tŷ’r Gwrhyd.

Castell Howell

“Rydym wrth ein bodd i fod yn noddwr ar gyfer Gŵyl Croeso Abertawe 2020, digwyddiad sy’n falch o hyrwyddo popeth Cymreig. Am dros 30 o flynyddoedd, rydym wedi bod yn ymroddedig i gyflenwi a hyrwyddo bwyd o’r safon uchaf o bob rhan o Gymru ac mae ein hamrywiaeth o gynnyrch yn ddigyffelyb yn y diwydiant. Rydym yn falch ein bod yn helpu i ddathlu diwrnod cenedlaethol Cymru ac arddangos y diwylliant a’r dreftadaeth gyfoethog sydd gan ein gwlad wych i’w cynnig. Dymunwn Ddydd Gŵyl Dewi hapus i chi gyd.”

Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe (DCABA)

Ni sy’n darparu cyrsiau Cymraeg I oedolion ar draws y rhanbarth. O Fro Gŵyr draw I Fargam; o Bontarddulais i Bontardawe (a thu hwnt) – mae gennym lu o ddosbarthiadau ar lefelau gwahanol, sy’n golygu os wyt yn byw neu’n gweithio yn y rhanbarth, ‘does dim angen i ti deithio’n bell i fynychu dosbarth!

Swansea BID

 

 

Gallwch fanteisio ar y cyfle cyffrous hwn i fasnachu yng nghanol dinas Abertawe trwy ddod o hyd i ragor o wybodaeth a gwneud cais ar-lein yn www.abertawe.gov.uk.

Os ydych chi’n artist, yn berfformiwr, neu’n grŵp cymunedol sydd â diddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch ag Emma Thomas, Swyddog Prosiect Digwyddiadau, ar 01792 635422 neu e-bostiwch Emma.Thomas2@abertawe.gov.uk

Dyddiad
29 CHWE - 01 MAW
Lleoliad
Swansea City Centre