Mae Bae Oxwich yn draeth hir a thywodlyd ac mae llawer i’w weld yno – y môr, tonnau, twyni, morfeydd heli, bwyd o safon a siopau – ac mae’n hawdd ei gyrraedd.
Gellir ei gyrraedd mewn car neu ar gludiant cyhoeddus (SA3 1LS).
Traeth Oxwich yw un o’r traethau hawsaf i’w gyrraedd mewn car ac mae ganddo faes parcio glan môr mawr ac amwynderau gerllaw.
Maes Parcio: Maes parcio mawr preifat ger y traeth, gorsaf gwefru trydan. Taliadau’n berthnasol.
Toiledau: Oes, gan gynnwys toiledau hygyrch.
Lluniaeth: Ciosg ar y traeth a bwyty, gwesty a siopau eraill gerllaw.
Cludiant cyhoeddus: Oes.
Cŵn: Fe’u caniateir ar y traeth drwy’r flwyddyn.
Mynediad i gadeiriau olwyn: Oes.
Achubwyr Bywydau: Nac oes.
Perchnogir a rheolir Traeth Oxwich gan Ystad Pen-rhys. Cystylltwch â https://penricecastle.co.uk/contact
Mae Oxwich yn addas ar gyfer chwaraeon dŵr ond ni chaniateir jet-sgis a dylai defnyddwyr cychod fod yn aelodau o Glwb Cychod Oxwich. Nid oes achubwr bywyd felly byddwch yn ofalus.