Trwyn Oxwich: taith drawiadol o gwmpas un o drwynau mwyaf prydferth a dramatig Gŵyr; trwy goetir prydferth ac ar draws clogwyni agored gan ddefnyddio rhan o Lwybr Arfordir Gŵyr.
Pellter: | Hyd y daith fyrrach yw 3¼ milltir (5km), a hyd y daith hirach trwy Faes Oxwich yw tua 4½ milltir (7km). |
Amser: | Caniatewch 2-4 awr. |
Natur y tir: | Mae rhan goetirol y daith ar dir anwastad sy’n dueddol i fod yn fwdlyd ac mae’n cynnwys rhes hir o risiau. Does dim camfeydd yn y daith fyrrach, ond mae tair ohonynt ar y daith hirach. Paratowch yn dda trwy wisgo dillad ac esgidiau priodol ar gyfer yr amodau ac adeg y flwyddyn. |
Diogelwch: | Byddwch yn ofalus wrth ddilyn y rhan fer sydd ar yr heol – does dim palmant. Mae’r llwybr yn mynd yn agos at glogwyni a llethrau serth. |
Lluniaeth: | Mae amrywiaeth eang o luniaeth a phrydau ar gael yng Ngwesty Bae Oxwich a siop y pentref. |
Toiledau cyhoeddus: | Gyferbyn â’r gwesty. |
Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad
Rhagor o ddolenni
i swanseabaywithoutacar.co.uk
i www.traveline-cymru.org.uk
Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: