Meddwl, Yfed, Ymlacio, Bwyta, Pori. Rydych chi wedi dod o hyd i ni, ac rydym ni wedi dod o hyd i chi - eich cartref newydd oddi cartref. FOUNDERS & CO yw'r lle perffaith i ymlacio drwy'r dydd, pob dydd yng nghanol Abertawe.
01792 962710
Partner Swyddogol
Founders & Co.
Yma yn FOUNDERS & CO mae ein neuadd fwyd llawn danteithion blasus ac mae ein bar llawn diodydd di-ri - ac mae'r cyfan wedi cael ei greu a'i guradu gan bobl dalentog iawn o dde Cymru.
Mae FOUNDERS & CO yn brofiad.
Rydym yn lleoliad sy'n cynnig mwy na bwyd a diod yn unig, gallwch hefyd siopa yma, a beth am adael gyda steil gwallt newydd?
Mae rhywbeth newydd i'w ddarganfod bob bore, prynhawn a nos.
Rydym yn gartref i bobl greadigol, chwilfrydig, flaengar a gwreiddiol - mae'r masnachwyr cyffrous yn newid yn gyson, felly peidiwch â'u colli.
Yn fyw ar y prif lwyfan.
O gyngherddau a nosweithiau comedi i stondinau bwyd a dillad dros dro, clwb llyfrau, clwb ffilmiau a sesiynau ioga a fydd yn tawelu eich enaid.
Amserau agor
JAN | FEB | MAR | APR | MAY | JUN | JUL | AUG | SEP | OCT | NOV | DEC |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Diwrnodau agored
MON | TUE | WED | THU | FRI | SAT | SUN |
---|---|---|---|---|---|---|
Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes | Yes |
Cyswllt
Gwobrau
Food Hygiene Rating 5
Bwyd
Hygyrchedd