fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Mae Ysgol Gynradd Pennard yn ceisio torri record byd Guinness am y ddawns werin fwyaf.

Ymunwch â’r ysgol a’r gymuned leol i ddathlu Dawnsio Gwerin Cymreig. Byddant yn darparu cyfleoedd i ddysgu’r ddawns yn yr wythnosau cyn yr ymgais i dorri’r record.

Bydd yr ymgais i dorri’r record yn Ysgol Gynradd Pennard ddydd Gwener 28 Chwefror am 2pm. Cofrestrwch eich diddordeb ar-lein.

Mae rheolau recordiau byd Guinness yn nodi bod angen bod y dawnswyr wedi ymarfer yn dda. Felly, anogir unrhyw un sy’n cymryd rhan i ddod i un o’r gweithdai dawns am 3.30pm ddydd Llun 24, ddydd Mawrth 25, ddydd Mercher 26 a dydd Iau 27 Chwefror yn neuadd yr ysgol.

Gallwch gofrestru ar gyfer yr ymgais i dorri’r record byd a’r gweithdai dawns am ddim.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch pennard.primary@swansea-edunet.gov.uk.

Dyddiad
28 CHWE 2020
Lleoliad
Pennard Primary School
Ffôn
01792 233343
E-bost
pennard.primary@swansea-edunet.gov.uk