Dyma’r rhan hiraf o Lwybr Gŵyr. Mae’n daith gerdded gymharol hir, sy’n fwyaf addas i gerddwyr profiadol. Mae rhan ogleddol Llwybr Gŵyr yn rhedeg o’r gogledd i’r dwyrain o Dre-gŵyr drwy Ddyffryn Lliw i gaer adfeiliedig hanesyddol Penlle’r Castell ar gopa Mynydd y Betws.
Graddio’r Daith Gerdded: | Llafurus |
Math o lwybr: | Unionlin |
Yn addas ar gyfer: | Cerddwyr profiadol, oherwydd ei hyd. |
Natur y tir: | Caeau, traciau fferm, coetir a gweundir (gan gynnwys nentydd i’w croesi), gyda rhai rhannau byr ar y ffordd a thrac metlin. |
Dechrau: | Tre-gŵyr. |
Diwedd: | Penlle’r Castell. |
Pellter y daith: | 15 milltir / 24km. |
Amser cyfartalog: | 9 awr. |
Gellir dilyn y llwybr cerdded hwn ar fapiau Explorer yr A.O. rhifau 164/165 (1:25,000), a map Landranger yr A.O. rhif 159 (1:50,000).
Mae’n ddoeth gwisgo esgidiau neu fwts cryf a dillad dwrglos.
Mae’r rhan hon o Lwybr Gŵyr yn croesi nifer o nentydd a gall rhai rhannau fod yn wlyb dan draed. Tua diwedd y daith gerdded, mae’n bosib y bydd cwmpawd yn ddefnyddiol iawn.
Ceir manylion llawn y daith gerdded hon yn nhaflen ‘Gower Way: Gowerton to Penlle’r Castell’ Cymdeithas Gŵyr.
Daw’r wybodaeth uchod o: Gower Way: Gowerton to Penlle’r Castell gan Gymdeithas Gŵyr.
Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad
Rhagor o ddolenni
i swanseabaywithoutacar.co.uk
i www.traveline-cymru.org.uk
Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: