Llwybr hyfryd trwy gefn gwlad prydferth gogledd Gŵyr sy’n dilyn rhan o Lwybr Arfordir Gŵyr rhwng Llanrhidian a Cheriton yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain, Gŵyr.
Tro hir
Pellter: Pellter y llwybr o Lanrhidian i Cheriton ac yn ôl yw 8 milltir (13km).
Tro byr 1
Pellter: rhwng Llanrhidian a Weble (3 milltir neu 5km).
Tro byr 2
Pellter: rhwng Landimôr a Cheriton (3 milltir neu 5km).
Fel arall, gellir cerdded ar hyd llwybr yr arfordir o Lanrhidian i Cheriton neu i’r gwrthwyneb a defnyddio’r bws i ddychwelyd i’r man cychwyn.
Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe
# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad
Rhagor o ddolenni
i swanseabaywithoutacar.co.uk
i www.traveline-cymru.org.uk
Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: