fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Graddio’r Daith Gerdded: Hawdd
Math o lwybr: Cylch
Yn addas ar gyfer: Pawb
Natur y tir: Llwybrau’r arfordir, rhes o risiau. Mae’r wyneb yn amrywio o fod yn galed a chadarn i fod yn llyfn ac anesmwyth
Dechrau: Maes parcio Bae Langland (talu ac arddangos)
Gorffen: Maes Parcio Bae Langland
Pellter: 2 filltir
Amser cyfartalog: 1-2 awr
Cludiant cyhoeddus: Oes
Mannau parcio ceir: Oes, ym Mae Langland (talu ac arddangos)
Toiledau cyhoeddus: Oes, ym Mae Langland
Gwybodaeth am Ddiogelwch: Mae’r llwybr yn croesi cwrs golff – cadwch lygad am beli golff yn yr awyr! Mae’r llwybr hwn hefyd yn cynnwys grisiau.

Uchafbwyntiau

  • Er bod y rhan hwn o arfordir Gŵyr yn eithaf agos at bentref prysur y Mwmbwls, mae’r bywyd gwyllt sydd ar gael yma’n gyffredin ar draws ardal gyfan Gŵyr. Cadwch lygad am y frân goesgoch brin yn yr awyr – dim ond 3 neu 4 pâr ohonynt sy’n byw yn ardal Gŵyr. Mae ei chân unigryw a’i phig a’i choesau cochion yn ei  gwahaniaethu o’r frân gyffredin sy’n debyg iddi.
  • Mae adar cymharol brin eraill yn cynnwys yr hebog tramor a’r gigfran, ac efallai y byddwch yn gweld (neu’n clywed) cnocell werdd, ehedydd, boncath, nico bach, coch y berllan a chlochdar y cerrig.
  • Gellir gweld morloi llwyd yn aml wrth iddynt ddod i’r wyneb ar y môr. Efallai y byddwch yn ddigon lwcus i weld llamhidyddion, sy’n fwy prin, neu hyd yn oed heulforgi.
  • Ar y lan, efallai y dewch chi ar draws nadroedd defaid, madfallod a gwiberod yn torheulo yn yr haul, ond er eu bod yn gyffredin, maent yn greaduriaid swil ac fel arfer maent yn anodd eu gweld.
  • Yn ogystal â’r eithin a’r grug toreithiog, gellir gweld blodau mwy prin ewinor melyn ym mis Ebrill.
  • Edrychwch ar y clogwyni rhwng Caswell a Langland hefyd i weld a allwch weld unrhyw ffurfiannau yn y creigiau. Mae’r ffurfiannau creigiau yn yr ardal hon yn bwysig yn ddaearegol ac fe’i nodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Daw’r wybodaeth uchod o:Walking for Health, a gyhoeddwyd gan Ddinas a Sir Abertawe.

Map o’r Llwybr

Os yw’r daith gerdded hon yn apelio atoch, beth am lawrlwytho’r arweiniad llwybrau cerdded bychan gwych hwn. Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Dinas a Sir Abertawe sydd wedi’i lunio, a bydd yn eich helpu i fynd ar y trywydd iawn.

Rhagor o wybodaeth

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe

# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad

Rhagor o ddolenni
i swanseabaywithoutacar.co.uk
i www.traveline-cymru.org.uk

Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: