fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Dewch i ddarganfod penrhyn trawiadol Gŵyr wrth i chi gerdded o Rosili i Benmaen ar hyd rhan ddeheuol Llwybr Gŵyr.

Mae’r daith gerdded o Rosili i Benmaen yn un gymharol hir ond gwerth chweil, sy’n fwyaf addas i gerddwyr profiadol.

Trosolwg o’r daith gerdded

Graddio’r Daith Gerdded: Llafurus
Math o lwybr: Unionlin
Yn addas ar gyfer: Cerddwyr profiadol, oherwydd ei hyd.
Natur y tir: Taith gerdded ar hyd caeau, traciau fferm, coetir a gweundir a grisiau i’w dringo.
Dechrau: Hen Wylfa Gwylwyr y Glannau gyferbyn â Phen Pyrod (canolfan wybodaeth CCGC sydd yma’n awr).
Diwedd: Penmaen.
Pellter y daith: 8 milltir / 13km.
Amser cyfartalog: 4-5 awr.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Cludiant Cyhoeddus: Oes.
Mannau parcio ceir: Ar gael yn Rhosili (ffi barcio breifat)
Lluniaeth: Ar gael yng ngwesty’r Worm’s Head Hotel a’r siop (ger y maes parcio), yr orsaf betrol (ar y ffordd), gwesty’r King Arthur Hotel yn Reynoldston.
Toiledau cyhoeddus: Ar gael ar waelod maes parcio Rhosili, gwesty’r Worm’s Head Hotel, yr orsaf betrol a gwesty’r King Arthur Hotel.
Byddwch yn barod: Mae’n ddoeth gwisgo esgidiau neu fwts cryf a dillad dwrglos.
Gwybodaeth am Ddiogelwch: Byddwch yn ofalus o draffig ar y ffyrdd.

Manylion y daith gerdded

Ceir manylion llawn y daith gerdded hon yn nhaflen Gower Way: Rhossili to Penmaen Cymdeithas Gŵyr.

Uchafbwyntiau

  • Pentir trawiadol Pen Pyrod ar ddechrau’r daith gerdded
  • Golygfeydd hardd o dde Gŵyr gan gynnwys Bae Oxwich a Bae y Tri Chlogwyn, pentrefi bach, fflora a ffawna brodorol wrth i chi gerdded ar draws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain.

Daw’r wybodaeth uchod o’r daflen: Gower Way: Rhossili to Penmaen, gan Gymdeithas Gŵyr.

Rhagor o wybodaeth

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe

# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad

Rhagor o ddolenni
i www.baytrans.org.uk
i www.traveline-cymru.org.uk

Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: