fbpx
10k Bae Abertawe Admiral - Gofrestru nawr!
Dydd Sul 15 Medi

Dewch i ddarganfod ardal wledig Gŵyr wrth i chi gerdded o Benmaen i Dre-gŵyr ar hyd rhan ganol Llwybr Gŵyr.

Tro cymharol hir, ond sy’n werth chweil, sy’n fwyaf addas i gerddwyr profiadol.

Crynodeb o’r Daith Gerdded

Graddio’r Daith Gerdded: Llafurus.
Math o lwybr: Unionlin.
Yn addas ar gyfer: Cerddwyr profiadol oherwydd ei hyd.
Natur y tir: Taith gerdded ar hyd caeau, traciau fferm, coetir a gweundir.
Dechrau: Pen de-ddwyreiniol Cefn Bryn ar lwybr troed 16, wrth garreg farcio rhif 12 Llwybr Gŵyr (y tu allan i Benmaen, CG 527889).
Diwedd: Wrth garreg farcio rhif 30, yn agos i’r maes parcio yn Nhre-gŵyr (CG 592963).
Pellter y daith: 10 milltir / 16km.
Amser cyfartalog: 6-5 awr.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

  • Cludiant cyhoeddus: Mae bysus yn mynd i Benmaen (10 munud o daith ar droed o’r dechrau).
  • Lle parcio yng Nghefn Bryn wrth farciwr cilomedr rhif 9.
  • Dewch â’ch lluniaeth eich hun gan fod cyfleusterau’n brin ar y daith hon
  • Does dim toiledau cyhoeddus ar y llwybr
  • Byddwch yn barod, dewch â Map Grid
  • Mae’n ddoeth gwisgo esgidiau neu fwts cryf a dillad dwrglos.

Manylion y daith gerdded

Disgrifir manylion llawn y daith gerdded hon yn nhaflen Gower Way: Penmaen to Gowerton Cymdeithas Gŵyr

 

Uchafbwyntiau

Archwiliwch gyfaredd wledig mewndir Gŵyr wrth i chi gerdded ar draws canol y penrhyn trawiadol. Cadwch lygad am fflora a ffawna brodorol wrth i chi archwilio Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf Prydain.

Daw’r wybodaeth uchod o’r daflen: Gower Way: Penmaen to Gowerton, gan Gymdeithas Gŵyr.

Rhagor o wybodaeth

Tîm Mynediad i Gefn Gwlad Cyngor Abertawe

# 01792 635746 neu 01792 635230
@ countrysideaccess@swansea.gov.uk
www.abertawe.gov.uk/mynediadcefngwlad

Rhagor o ddolenni
i swanseabaywithoutacar.co.uk
i www.traveline-cymru.org.uk

Gyda bron 400 milltir o hawliau tramwy, mae Bae Abertawe’n cynnig nifer o lwybrau cerdded cofiadwy, o deithiau byr i deuluoedd sy’n mynd heibio nifer o eglwysi a thirnodau bach yn yr ardal, i lwybrau i bobl fwy profiadol, gyda golygfeydd syfrdanol o Benrhyn Gŵyr. Rhagor o wybodaeth: