fbpx
BBC NOW Bartok’s Concerto for Orchestra
10 Mai

Does dim llawer o amser i fynd tan y diwrnod mawr! Dim ond ychydig ddyddiau sydd ar ôl yn yr ysgol a’r gwaith (os ydych chi’n lwcus), mae’r goeden wedi cael ei haddurno, mae anrhegion yn cael eu lapio ac mae’r ysgewyll Brwsel yn cael eu paratoi. Mae Abertawe’n brysur gyda gweithgareddau’r Nadolig, darllenwch ymlaen i weld pa ddigwyddiadau llawn hwyl yr ŵyl sy’n cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf.

Joio Marchnad y Nadolig

Mae’r Farchnad Nadolig yn ei hanterth, ond dim ond ychydig o ddiwrnodau siopa sydd ar ôl felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod i lawr erbyn dydd Mercher 20fed Rhagfyr! Mae’r cabanau Nadoligaidd ar hyd Stryd Rhydychen a Whitewalls yn cynnig amrywiaeth o ddanteithion ac anrhegion unigryw, o froetshis wedi’u gwneud â llaw, canhwyllau a serameg i wirodydd, brownis a churros. Mae amser o hyd i godi rhai cardiau hardd, torchau ac addurniadau Nadolig personol hefyd. Mae Bar Bafaria yn cynnig lle clyd ar gyfer gwin cynnes ac mae digon o ddewis ar gyfer tamaid i’w fwyta.

 

 

Siopa yn y Cwadrant

Prynwch eich anrhegion Nadolig yn y Cwadrant y mis Rhagfyr hwn! Gyda thros 30 o frandiau enwog, o Pandora, Schuh a Boots i The Entertainer, Rugby Heaven a Superdry, gallwch ddod o hyd i rywbeth i bawb. Mae digon o siopau ar agor tan Noswyl Nadolig, felly bydd digon o opsiynau i bawb y Nadolig hwn.

 

 

 

 

Hwyl yr ŵyl Freedom Leisure

Os yw’r tywydd tu fas yn ofnadwy, a’r teulu wedi cael llond bol o fod yn y tŷ dros y gwyliau, anelwch am yr LC yn Abertawe y Nadolig hwn. Mae’r LC yn gartref i barc dŵr dan do mwyaf Cymru, gyda sleidiau a thonnau. Gyda wal ddringo 30 troedfedd ac ardal chwarae 4 llawr, dyma’r lle perffaith i’ch plant y Nadolig hwn. Os hoffech gael profiad i’ch ymlacio, y Sba yn yr LC yw’r lle perffaith i chi gael hoe o brysurdeb y Nadolig. Mae talebau rhodd ar gael o hyd ar gyfer yr anrheg Nadolig funud olaf berffaith.

 

 

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau 

Bydd y llyn iâ yn ôl a dan do – felly gallwch fynd ar yr iâ ym mhob tywydd! Mae cymhorthion sglefrio ar gael i blant ifanc a chynhelir sesiynau hamddenol gyda llai o oleuadau, dim cerddoriaeth a chyhoeddiadau uchel bob dydd Mawrth.

Newydd ar gyfer 2023: Ewch ar yr Ice Jet os ydych chi’n chwilio am gyffro. Mae’r unig reid Ice Jet yn Ewrop yn cynnig profiad unigryw a chyffrous. Mae’n llawn hwyl cyflym ac yn gallu cyrraedd cyflymder o dros 50mya.

Ac, os yw hyn i gyd yn gwneud i chi deimlo chwant bwyd, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymweld â’r Pentref Alpaidd i gael ffefrynnau’r ŵyl gan gynnwys selsig Almaenig, gwin y gaeaf cynnes neu hyd yn oed malws melys wedi’u tostio. Eisteddwch a mwynhewch awyrgylch y Pentref Alpaidd gyda’ch ffrindiau a’ch teulu.

 

 

 

Joio panto yn Theatr y Grand Abertawe

Bydd pantomeim eleni, sef cynhyrchiad gwych o Cinderella a gynhelir o ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr i ddydd Sul 7 Ionawr, yn cynnwys set ddigidol ysblennydd, digonedd o gynnwys y gynulleidfa a llawer iawn o chwerthin.

Bydd y sioe yn cynnwys y ffefrynnau teledu a’r deuawd ddawnsio, AJ a Curtis Pritchard, ynghyd â hoelion wyth panto Abertawe, yr hynod ddoniol Kev Johns a Matt Edwards, ochr yn ochr â chast llawn o berfformwyr dawnus.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i ymuno yn yr hwyl ym mhantomeim Theatr y Grand Abertawe. Archebwch eich tocynnau nawr a pharatowch am drît go iawn i’r teulu.

 

 

 

Dewch o hyd i’r Coblyn – Amgueddfa Genedlaethol y GlannauFind the elf at the National Waterfront Museum

Mae mwy o hwyl yr ŵyl i’w chael yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yr wythnos hon. Mae’n lle cynnes a gwahoddgar i archwilio ac ymlacio, felly galwch heibio i gymryd rhan yn llwybr y Nadolig eleni sef Dewch o hyd i’r Coblyn, ffordd ddifyr o ddifyrru’r rhai bach yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig. Rydym ar agor yr wythnos cyn cyfnod y Nadolig, o 27 i 31 Rhagfyr, ac yn darparu gweithgarwch Nadoligaidd am ddim fel y gallwch ddianc rhag yr oerfel i gael hwyl ac archwilio’r arddangosfeydd a hanes yr Amgueddfa.

 

 

Dewch i fwynhau Diwylliant y Nadolig

Camwch i ffwrdd o’r siocled, diffoddwch y sgrîn, gwisgwch eich cot ac ewch allan am awyr agored. Gwnewch yn fawr o’ch amser i ffwrdd o’r ysgol a’r gwaith wrth ymweld â’n lleoliadau diwylliannol – bydd ychydig o ddarllen, celf, hanes, cerddoriaeth a diwylliant yn gwneud byd o les i chi.

Gallwch weld y rhestr lawn o amserau agor lleoliadau, yn ogystal â manylion am weithgareddau a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal dros gyfnod y Nadolig ar y dudalen we arbennig hon. Gallwch hefyd ddod o hyd i syniadau crefft i gadw eich rhai bach yn brysur – cymerwch gip ar y calendr adfent gweithgareddau.

 

 

 

 

Digwyddiadau Neuadd Brangwyn

Mae tocynnau munud olaf ar gael o hyd ar gyfer perfformiadau’r wythnos hon – gallwch fynd i ysbryd y Nadolig gyda Bublé, Adele neu mewn cyngherddau’r Nadolig yng Ngolau Cannwyll. Beth am gael anrheg Nadolig funud olaf – mae digon o gyngherddau yn y flwyddyn newydd, o CGG y BBC, Andalucia – Flamenco, cyngerdd ddathlu Valley Rock Voices a llawer mwy. Cymerwch gip ar yr hyn sydd gan Neuadd Brangwyn i’w gynnig.

 

 

 

 

Enwebwch nawr ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Abertawe mewn cydweithrediad â Freedom Leisure

Ewch ati i enwebu’n gyflym! Mae llai na phythefnos ar ôl i chi gyflwyno enwebiadau gan mai’r dyddiad cau ar gyfer gwneud hynny yw 31 Rhagfyr. Ydych chi’n adnabod athletwr, hyfforddwr, gwirfoddolwr neu dîm? Enwebwch nhw nawr am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i chwaraeon. Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu pencampwyr chwaraeon Abertawe yn Neuadd Brangwyn ym mis Mawrth 2024!

 

 

Teithio yn ystod y Nadolig

Nid oes angen i chi feddwl am barcio, petrol, gwefru neu draffig, gallwch deithio ar fysus am ddim i unrhyw le yn Sir Abertawe ddydd Sadwrn 23 Rhagfyr a Noswyl Nadolig a rhwng dydd Mercher 27 a dydd Sul 31 Rhagfyr. Ewch i’r dre i fwynhau Gwledd y Gaeaf ar y Glannau neu ewch i benrhyn Gŵyr i losgi calorïau’r mins-peis gyda thro gaeafol.

 

 

 

Coeden Nadolig

Fyddai hi ddim yn Nadolig heb goeden Nadolig – neu ddwy! Cyflwynir coed Nadolig hyfryd eleni mewn partneriaeth â  Communities for Work+ Swansea a Kartay.

Hoffai tîm Joio Bae Abertawe ddymuno
Nadolig Llaweni chi gyd!