Lawrlwythwch yr amserlenni bysus a threfnwch eich taith gerdded ar ddydd Sul neu ddiwrnod ar y traeth nesaf.
Does dim byd gwell na dydd Sul tawel ar y traeth neu fynd am dro braf ar hyd ein harfordir gwych ar Lwybr Arfordir Gŵyr.
Yr haf hwn gallwch adael y car gartref neu yn eich llety gwyliau a dechrau ymlacio o ddechrau eich taith – byddwch hefyd yn teithio mewn ffordd fwy cynaliadwy – gan leihau eich ôl troed carbon!
Does dim angen poeni am yrru a pharcio, ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd (mae uchder y bws yn golygu y byddwch chi’n gallu gweld dros y gwrychoedd a mwynhau’r olygfa!) – a chyda chwe gwasanaeth dychwelyd mewn un diwrnod, mae digon o amser i fwynhau pryd o fwyd yno!
Ydych chi’n chwilio am ragor o wybodaeth am wasanaethau yn ystod yr wythnos i Benrhyn Gŵyr, y Mwmbwls ac Abertawe? Gall ‘Bae Abertawe Heb Gar’ eich helpu! Mae ganddynt hefyd gynllunydd llwybrau defnyddiol ac amserlenni i’w lawrlwytho.
Amserlenni Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr