fbpx
Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe 2024
15 - 17 Mehefin

Ar 10-16 Gorffennaf cynhelir 3 digwyddiad rhyngwladol am ddim i wylwyr yn Abertawe – IRONMAN 70.3 Abertawe, World Triathlon Para Series Swansea Abertawe a’r  GŴyl Parachwaraeon.

 

para sports
Gŵyl Parachwaraeon

Bydd yr Ŵyl Parachwaraeon, a gydlynir gan Chwaraeon Anabledd Cymru ac a gyflwynir gan glybiau InSport lleol a Chyrff Llywodraethu Chwaraeon Cenedlaethol, yn darparu cyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion anabl gymryd rhan mewn dros 20 o gampau, o athletau i rygbi cadair olwyn.
Mae mynediad am ddim a gallwch gofrestru nawr.

Gŵyl Parachwaraeon

 

Chyfres Para Treiathlon y Byd 2023

World Triathlon Para Series Swansea Abertawe ar ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf yw prif ddigwyddiad Gŵyl Parachwaraeon Chwaraeon Anabledd Cymru.
Bydd yn dod â rhai o bara-athletwyr gorau’r byd i gystadlu yn y ddinas wrth nofio, beicio a rhedeg gyda Glannau SA1 yn darparu lleoliad ar gyfer yr holl gyffro.

World Triathlon Para Series Swansea Abertawe

IRONMAN competitors

IRONMAN 70.3 Abertawe

Bydd IRONMAN 70.3 Abertawe, sydd hefyd yn newydd ar gyfer 2022, yn cael ei gynnal am y tro cyntaf ddydd Sul 16 Gorffennaf, gyda digwyddiad nofio, beicio a rhedeg pellter canol. Yn ystod y digwyddiad IRONMAN 70.3 cyntaf i’w gynnal ar dir Cymru bydd miloedd o athletwyr yn mwynhau’r harddwch naturiol eithriadol a thirweddau arfordirol godidog de Cymru olygfaol.

Gan ddechrau gyda nofiad 1.2 filltir yn Noc Tywysog Cymru, bydd athletwyr yn cyflawni taith 56 milltir ar feic ar hyd glannau Bae Abertawe, trwy’r Mwmbwls, ac ar draws bryniau Gŵyr cyn rhedeg 13.1 filltir ar lan y môr. Gyda llinell derfyn go arbennig ym Mharc yr Amgueddfa, bydd athletwyr yn rasio i lawr y carped coch enwog i dderbyn y medalau IRONMAN 70.3 Abertawe cyntaf.

 

Ironman 70.3

I sicrhau diogelwch a’r profiad gorau posib i bawb, bydd nifer o ffyrdd ar gau ddydd Sadwrn 15 a dydd Sul 16 Gorffennaf ac rydym yn gobeithio y byddwch yn dod i gefnogi’r athletwyr hyn a mwynhau’r awyrgylch arbennig a ddaw gyda’r chwaraeon hyn.

Bydd yn wythnos wych o chwaraeon yn Abertawe ac yng Gŵyr a ph’un a ydych chi’n cymryd rhan neu’n cefnogi, yn byw yn lleol neu’n ymweld ag Abertawe am y tro cyntaf, rydym yn gobeithio y cewch chi amser gwych.