fbpx
Sioe Awyr Cymru 6 & 7 Gorffennaf 2024
Gweld Mwy

Mae Abertawe’n barod i gynnal wythnos arall o chwaraeon o’r radd flaenaf yn haf 2023.

Bydd yn gyfle i filoedd o athletwyr, cefnogwyr a gwylwyr fwynhau Cyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe 2023 (15 Gorffennaf) ac IRONMAN 70.3 Abertawe (16 Gorffennaf).

Cynhaliwyd y digwyddiadau cyntaf hyn eleni yn olynol ar ddechrau mis Awst a chawsant eu canmol gan lawer fel llwyddiant ysgubol, gyda sylw’r byd ar Abertawe.

Cynhelir digwyddiadau’r flwyddyn nesaf ar benwythnos 15 ac 16 Gorffennaf, cyn gwyliau haf yr ysgolion a byddant yn helpu i ddechrau cyfnod brig twristiaeth yr ardal.

Fel y digwyddodd yn 2022, bydd y penwythnos yn dilyn Gŵyl Parachwaraeon Chwaraeon Anabledd Cymru gyda chyfleoedd cymryd rhan hygyrch mewn gweithgareddau fel nofio, beicio a rhedeg.

Cynhelir ras Cyfres Para Treiathlon y Byd o fewn y cyfnod i ennill lle yng Ngemau Paralympaidd Paris 2024, gan roi cyfle allweddol i athletwyr Prydeinig ennill pwyntiau cymhwyso gwerthfawr gartref.

Digwyddiad y llynedd oedd y cyntaf o’i fath i’w gynnal ym Mhrydain lle’r oedd yr athletwyr Prydeinig, Claire Cashmore a Dave Ellis, dan arweiniad Luke Pollard, wedi ennill medalau aur yn eu dosbarthiadau perthnasol.

Darparodd y digwyddiad 100 o rolau gwirfoddoli hefyd yn ogystal â chyfleoedd cymryd rhan hygyrch mewn cystadlaethau nofio, beicio a rhedeg drwy Acwathon (nofio, rhedeg) Anabledd GO TRI ac Uwch Gyfres Paratri Triathlon Prydain.