I wneud y pice ar y maen hyn i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, bydd angen:
Cynhwysion(Bydd y symiau hyn yn ddigon i wneud tua 24 o bice ar y maen)
Anghenion dietegol arbennig
I wneud pice ar y maen feganaidd, defnyddiwch bâst neu fargarîn feganaidd a defnyddiwch laeth ceirch yn lle ŵy.
Gellir defnyddio symiau cyfartal o fathau eraill o flawd yn lle blawd gwenith e.e. blawd heb glwten
Offer
Cam 1: Gogrwnwch y blawd codi a’r sbeis cymysg i mewn i’r bowlen.
Cam 2: Ychwanegwch y menyn Cymreig at y blawd a rhwbiwch y cynhwysion hyn gyda blaenau’ch bysedd nes eu bod fel briwsion mân, yna ychwanegwch y siwgr a’r cyrens a’u cymysgu’n ysgafn.
Cam 3: Gwnewch bant yng nghanol y cymysgedd ac ychwanegwch yr ŵy wedi’i guro, yna defnyddiwch eich bysedd i ddod â’r cynhwysion at ei gilydd i ffurfio pelen ystwyth o does.
Cam 4: Gorchuddiwch y belen does a’i rhoi yn yr oergell am 30 munud. Tra bo’r toes yn oeri, cynheswch y maen i wres cymedrol*. Os nad oes gennych faen, gallwch ddefnyddio padell ffrio â gwaelod trwchus yn lle.
Cam 5: Rhowch y toes ar arwyneb wedi’i flawdio’n ysgafn a’i rolio allan yn ysgafn nes ei fod tua ½ centimetr o drwch. Torrwch y toes yn gylchoedd 7cm a rhowch nhw ar hambwrdd.
Cam 6: Irwch y maen twym yn ysgafn gydag olew llysiau. Rhowch y pice ar y maen a’u coginio am 2 funud ar bob ochr, neu nes eu bod wedi coginio drwodd, yna rhowch nhw ar resel oeri, a’u hysgeintio â siwgr mân tra’u bod yn dwym.
Cam 7: Rhowch y tegell ymlaen! ‘Mae’n well gen i gael pice ar y maen twym, yn syth oddi ar y maen gyda phaned o de’. Meddai Pat Maddocks o Cakes from Wales.
Mwynhewch eich pice ar y maen nefolaidd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi!
Dim amser i dwymo’r maen? Yna archebwch eich pice ar y maen ffres yn syth oddi wrth Pat yn Cakes from Wales a threfnu iddynt gael eu danfon yn syth i’ch drws!
Awydd paned arall? Yna mae gennym ragor o ddanteithion blasus ar eich cyfer y gellir eu danfon yn uniongyrchol atoch! Rhagor o wybodaeth
Teimlo’n llawn ysbrydoliaeth? Cofiwch gael cip ar ein ryseitiau eraill ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi!