fbpx
Chwaraeon ac Iechyd
Mwy o wybodaeth

Croquette caws gafr Pant-Ysgawn a mêl blodau gwyllt o Gymru gyda pesto garlleg gwyllt o Langland

Pen-cogydd Emili0 Fragiacomo

Wedi’i baratoi gan Emilio Fragiacomo, Pen-cogydd-berchennog Langland’s Brasserie, bwyty arobryn sy’n cynnig bwyd gwych, cynnyrch lleol ac un o’r golygfeydd gorau o fwyty yn y DU.

Ar gyfer 6 i 8 croquette bach.

 

 

Am weld sut maen nhw’n coginio? Gwyliwch y fideo llawn o’r  pen-cogydd Emilio yn gwneud y saig flasus hon!

Cynhwysion ar gyfer y croquettes

  • 175g o gaws gafr Pant-Ysgawn
  • 100-120g o datws canllyd
  • 3 ŵy
  • 50g o flawd gwyn ar gyfer y cytew caenu
  • 150g o friwsion bara Panko neu rywbeth tebyg
  • 250ml o olew niwtral ar gyfer ffrio (olew llysiau, blodau haul, had rêp)
  • 1 llwy fwrdd o fêl blodau gwyllt o Gymru

Cynhwysion ar gyfer y pesto garlleg gwyllt

  • 10g neu lond llaw o arlleg gwyllt. (Yr amser gorau i chwilio am y planhigyn amlddefnydd ac egr hwn yw’r gwanwyn, a gallwch ddod o hyd iddo ar hyd arfordir Cymru) neu 1 clof mawr neu 2 glof bach o arlleg
  • 10g neu lond llaw o bersli dail gwastad
  • 50g o gnau pinwydd
  • 50ml o olew olewydd
  • Halen fel y dymunir
  • 1 llwy fwrdd o sudd lemwn
  • 25g o gaws Parmesan wedi’i gratio

Y dull coginio

Ar gyfer y pesto garlleg gwyllt:

  1. Dechreuwch gyda llond llaw o arlleg gwyllt a phersli a’u torri’n fân mewn prosesydd bwyd, gan grafu’r darnau i lawr o’r ochrau i sicrhau tewdra llyfn.
  2. Ychwanegwch 50ml o olew olewydd yn araf.
  3. Ychwanegwch 50g o gnau pinwydd a’u prosesu nes eu bod yn llyfn.
  4. Rhowch y cymysgedd mewn powlen, ychwanegwch lwy fwrdd o sudd lemwn a 25g o’r parmesan wedi’i gratio a chymaint o halen ag y dymunwch.
  5. Yn ddelfrydol, dylid paratoi’r pesto ddiwrnod ymlaen llaw.

Ar gyfer y croquettes:

  1. Berwch y tatws nes eu bod yn feddal a’u draenio mewn colandr. Defnyddiwch stwnsiwr tatws neu fforc tra bydd y tatws yn dal yn dwym.
  2. Gadewch i’r tatws stwnsh oeri’n llwyr cyn ei gymysgu.
  3. Cymysgwch y caws gafr a’r tatws stwnsh nes i chi gael past llyfn.
  4. Oerwch y past am 10 munud yn yr oergell cyn ei siapio.
  5. Gwnewch siapau silindrau bach tua maint eich bys bach.
  6. Chwisgwch y ddau ŵy mewn powlen.
  7. Paratowch ddwy bowlen arall; un gyda’r blawd a’r llall gyda’r briwsion bara.
  8. Dechreuwch trwy gaenu’r croquettes â’r blawd, yna’r wyau, yna’r briwsion bara. Rhowch nhw yn yr wyau yna’r briwsion bara unwaith eto os hoffech gael cytew caenu mwy crensiog.
  9. Ffriwch nhw’n ofalus dros wres canolig, a’u troi’n ofalus nes bod y ddwy ochr yn frown euraidd.
  10. Tynnwch nhw allan o’r badell a’u sychu ar dywel papur.

Arllwyswch ychydig o fêl drostynt pan fyddant yn dal yn dwym.
I gael y canlyniadau gorau, gallwch eu pobi am 3 munud ychwanegol ar 200 gradd selsiws.
Gweinwch y croquettes pan fyddant yn dwym gyda llwy fwrdd o’r pesto.

A dyna ni! Diolch arbennig i’r Pen-cogydd Emilio a Langland’s Brasserie – Dydd Gŵyl Dewi hapus!

Teimlo’n llawn ysbrydoliaeth? Cofiwch gael cip ar ein ryseitiau eraill ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi!